Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2024

Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, dewch i ni i gyd ddod at ein gilydd i siarad am iechyd meddwl a dangos i bawb bod iechyd meddwl o bwys. Gall siarad am ein hiechyd meddwl ein helpu i ymdopi’n well â bywyd a’r anfanteision. Felly, ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd a thu hwnt iddo, beth am gysylltu â'ch ffrindiau, teulu, cyfoedion neu gydweithwyr? 

Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn cael ei ddathlu bob blwyddyn ar 10 Hydref. Thema eleni a osodwyd gan Ffederasiwn Iechyd Meddwl y Byd yw iechyd meddwl yn y gweithle. Mae’r thema’n amlygu pwysigrwydd mynd i’r afael ag iechyd meddwl a lles yn y gweithle, er budd pobl, sefydliadau a chymunedau. 

Gweminar i staff - Dydd Iau 10 Hydref, 12yp

'It's Time to Prioritise Mental Health in the Workplace'
Yn unol â ‘Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd’

Yr hyn y bydd y gweminar yn ymdrin â:

  • Pam fod angen y math hyn o ddiwrnodau?
  • Beth rydym yn ei olygu wrth Iechyd Meddwl a Salwch Meddwl?
  • Stigma a sut i fynd i'r afael ag ef.
  • Sut gallwch chi helpu rhywun a allai fod yn sâl yn feddyliol?
  • Arwyddion a symptomau
  • Afiechydon meddwl cyffredin
  • Sut y gall CareFirst helpu

Cyflwynwyr
Pat Garland Smith, Care First, Rheolwr Hyfforddiant
Chi Yip, Care First, Uwch Reolwr Cyfrif

Pryd?
Dydd Iau, Hydref 10fed @ 12:00 12:45

Ymunwch trwy
GoToWebinar yma:
https://attendee.gotowebinar.com/register/716115159233248601