Diwrnod Iechyd Meddwl y Brifysgol 2024
Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Brifysgol yn dod â chymuned y brifysgol ynghyd i wneud iechyd meddwl yn flaenoriaeth i’r brifysgol gyfan ac ar draws y wlad, er mwyn creu newid parhaus i ddyfodol iechyd meddwl myfyrwyr a staff.
Maths and Madness: An Academic’s Dance with Bipolar Disorder
- Amser/dyddiad: 10yb-11yb, Dydd Iau 14 Mawrth 2024
- Lleoliad: Ystafell A6, Adeilad Llandinam (Lleoliad)
- Agored i fyfyrwyr a staff. Nid oes angen cofrestru o flaen llaw.
Mae Kim Kenobi yn gweithio fel darlithydd ystadegau yn yr Adran Fathemateg. Cafodd ddiagnosis o anhwylder deubegynol yn 1995. Yn y sgwrs hon, bydd yn trafod gweithio a byw gyda salwch meddwl hirdymor. Bydd yn cynnwys rhai manylion am sut mae ei anhwylder deubegynol wedi effeithio arno dros y 30 mlynedd diwethaf ac yn cynnig mewnwelediad i’r iachâd graddol y mae wedi’i brofi, gyda chymorth ysgrifennu hunangofiannol.
Mae Kim bellach mewn sefyllfa eithaf cryf o ran ei salwch meddwl. Mae’n cymryd meddyginiaeth yn rheolaidd sy’n ei helpu i gynnal sefydlogrwydd ac yn defnyddio ystod o arferion ymwybyddiaeth ofalgar. Mae’n teimlo bod byw a gweithio yn Aberystwyth yn amgylchedd ardderchog ar gyfer rhyddhau’r straen sydd wedi cyfrannu at ei gyfnodau o fod yn sâl yn y gorffennol. Pwrpas y sgwrs hon yw adrodd profiad personol o sut y gall salwch meddwl amlygu ei hun a sut, gydag amynedd ac ymroddiad, y gellir dod i delerau ag anhwylder deubegynol a dysgu i fyw’n dda er gwaethaf heriau’r cyflwr hwn.