Diwrnod Cofio'r Holocost 2025
Fate Unknown: The Search for the Missing after the Holocaust
29 Ionawr 2025, 1.30 i 5yp
Lleoliad: Prif Neuadd, Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Mae’n bleser gan y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl ym Mhrifysgol Aberystwyth gynnal rhaglen ac arddangosfa am ddim a ddarperir gan Lyfrgell Holocost Wiener a Sefydliad Ymchwil yr Holocost, Royal Holloway, Prifysgol Llundain i goffáu Diwrnod Cofio'r Holocost 2025.
Mae Llyfrgell Holocost Wiener yn gartref i archif ddigidol Gwasanaeth Olrhain Rhyngwladol y DU, sy’n cadw miliynau o ddogfennau yn ymwneud â chyfnod yr Holocost a'r Natsïaid. Mae'r archif yn diogelu gorffennol cyffredin dioddefwyr a goroeswyr yr Holocost ac yn helpu i gefnogi ymchwil teuluoedd i erledigaeth y Natsïaid.
Rydym yn croesawu ymchwilwyr, archifwyr, haneswyr, myfyrwyr, haneswyr teulu, ymarferwyr treftadaeth, ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes Iddewig a'r Holocost a'i ganlyniadau.
Dysgwch am yr ymdrechion byd-eang a wnaed ar ôl yr Holocost i ddod o hyd i Zuzana Knobloch a miliynau o rai eraill tebyg iddi. Bydd cyfle i weld yr arddangosfa dros dro Fate Unknown yn ystod y rhaglen.
Mae amserlen y rhaglen fel a ganlyn:
1.30 Cyrraedd a chyfle i weld yr arddangosfa Fate Unknown
2.00 Sgwrs gan guraduron yr arddangosfa Fate Unknown Christine Schmidt a Dan Stone (1 awr, gan gynnwys sesiwn Holi ac Ateb fer)
3.00 Cyflwyniad gan Morris Brodie i Adnoddau Holocost Cymru a gynhyrchwyd ar y cyd â Chymdeithas Hanes Iddewig De Cymru a'i ariannu gan Gymdeithas Ffoaduriaid Iddewig (15 munud)
3.15 Cyflwyniad gan Andrea Hammel i'r prosiect newydd Unsettled Lives: War and Displacement in Wales (15munud)
3.30 Egwyl
3.45 Ymchwil yn Archif y Gwasanaeth Olrhain Rhyngwladol a Hanesion Anodd gydag Elise Bath (45 munud)
4.30 Sesiwn Holi ac Ateb ac Ymgynghoriadau
5.00 Diwedd y Digwyddiad