Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2024
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn dathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol merched ar draws y byd. Mae’r diwrnod hefyd yn nodi’r galw am gyflymu ein camau tuag at sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau.
#IWD2024 #InspireInclusion
Rydym yn falch iawn o nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth. Mae sawl digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnos.
- Gwobrau Amlygu Prifysgol Aberystwyth - Anfonwch yr enwebiadau erbyn 1af Mawrth at: caw113@aber.ac.uk.
I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gwahoddwn chi i enwebu aelodau o staff sy'n nodi eu bod yn fenywod neu'n anneuaidd er mwyn cydnabod eu cyfraniad i ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth. Anogwn chi i edrych y tu hwnt i'r rhai sy'n cael eu dathlu'n draddodiadol ac i gyfrannu i amharu ar y dulliau amlycaf o gynrychioli llwyddiant.
Mewn amgylchedd ymchwil sy’n ffynnu, yn rhy aml mae rhai cyfraniadau penodol yn mynd heb gael eu gweld, o gyfraniadau academyddion nad yw eu hymchwil yn cael digon o gydnabyddiaeth, i gyfraniadau technegwyr, llyfrgellwyr, gweinyddwyr, a llawer mwy. Mae rhywedd yn chwarae rhan yn aml. Croesewir hefyd enwebiadau sy'n adlewyrchu'r gorgyffwrdd rhwng mathau o hunaniaeth, megis rhywedd a hil, ethnigrwydd, crefydd, oed, rhywioldeb, dosbarth, statws yn rhiant, rhai ag anableddau, neu unrhyw hunaniaeth berthnasol arall . Os ydynt yn gymwys yn ôl y meini prawf, bydd Gwobrau Amlygu yn cydnabod pawb a enwebir. Anfonwch yr enwebiadau erbyn 1af Mawrth at: caw113@aber.ac.uk.
- Dydd Gwener 8 Mawrth - Cuban Women in the Revolution
Sgriniad arbennig o’r ffilm ddogfen yn Canolfan y Celfyddydau, a drefnwyd gan UNITE Community Cymru - Dydd Gwener 8 Mawrth - Parti Te staff a myfyrwyr ac Arddangosfa Ddeiseb Heddwch Menyod Cymru, Undeb Myfyrwyr (1230-3yh)
- Dydd Gwener 8 Mawrth - 'Adennill y nos': Gorymdaith o gwmpas y dre, Undeb Myfyrwyr (545-7yh)
- Dydd Gwener 8 Mawrth - ‘Grymuso Endo’ sgwrs am Endometriosis, Undeb Myfyrwyr (2-4yp)