Care First - Gweminarau Lles
Mae Care First - Rhaglen Gymorth i staff - yn darparu cyngor a chefnogaeth gyfrinachol a diduedd bob awr o’r dydd, a phob dydd o’r flwyddyn.
Mae Care First yn cyflogi Cwnselwyr ac Arbenigwyr Gwybodaeth gyda chymwysterau proffesiynol, sydd â phrofiad o helpu pobl i ymdrin â phob math o faterion ymarferol ac emosiynol megis Lles, materion teuluol, perthnasoedd, rheoli dyledion, materion yn y gweithle, a llawer mwy.
Mae Care First hefyd yn trefnu gweminarau misol ar les – sydd ar gael i staff eu mynychu neu i wylio’r recordiad ar eu gwefan ar ôl y digwyddiad.
Dyddiad | Gweminar |
---|---|
Dydd Mercher 27 Tachwedd 12-1yp |
Men, Masculinity and Mental Health Yn ystod y sesiwn, byddwn yn ymdrin â'r meysydd canlynol: Dynion ac Iechyd Meddwl; Gwrywdod gwenwynig; Pryder ac iselder; Dynion a Hunanladdiad; Casgliad; Beth allwn ni ei wneud; a gobeithion ar gyfer y dyfodol |
Dydd Mawrth 19 Tachwedd 12-1yp |
Menopause Awareness Yn ystod y sesiwn, byddwn yn ymdrin â'r meysydd canlynol: Beth yw menopos?; Beth yw'r symptomau?; Sut y gall meddyg teulu eich helpu; a Strategaethau i gefnogi symptomau |
Mae'r sleidiau a'r recordiad am y canlynol ar gael i staff yn yr adran 'gweminarau lles' ar wefan Care First |
|
Hydref 2024 |
It's Time to Prioritise Mental Health in the Workplace Yr hyn y byddwn yn ei gynnwys: Pam mae angen y mathau hyn o ddyddiau?; Beth rydym yn ei olygu wrth iechyd meddwl a Salwch Meddwl?; Stigma a sut i fynd i'r afael ag ef; Sut allwch chi helpu rhywun a allai fod yn sâl yn feddyliol?; Arwyddion a symptomau; Salwch meddwl cyffredin; Sut y gall Care First helpu |
Medi 2024 |
World Suicide Prevention Day 2024 Yr hyn y byddwn yn ei gynnwys: Beth yw syniadau am hunanladdiad?; Sut ydyn ni'n adnabod arwyddion o syniadau am hunanladdiad?; Sut i ymateb i syniadau am hunanladdiad; a Hunanofal gyda meddyliau am hunanladdiad. |
Awst 2024 |
How managers can support employees with their mental health Yr hyn y byddwn yn ei gynnwys: Beth yw dyletswydd gofal y rheolwyr?; Sut i gael y sgyrsiau sensitif hynny; Rôl a thasgau'r rheolwyr; a sut i gyfeirio'n briodol. |
Gorffennaf 2024 |
Menopause In The Workplace Yr hyn y byddwn yn ei gynnwys: Beth yw menopos?; Beth yw'r symptomau?; Sut y gall meddyg teulu eich helpu; a Strategaethau i gefnogi symptomau. |
Mehefin 2024 |
Financial Wellbeing Yr hyn y byddwn yn ei gynnwys: Beth yw lles ariannol?; Y cysylltiad rhwng lles ariannol a lles meddyliol, a sut i’w reoli; Awgrymiadau ar sut i reoli eich arian; a Ffyrdd y gallwch ofalu am eich iechyd meddwl drwy’r argyfwng costau byw. |
Mai 2024 |
Moving more for our mental health Yr hyn y byddwn yn ei gynnwys: Pwysigrwydd Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl; Beth yw rhai o fanteision symud mwy? Sut allwn ni i gyd symud mwy yn y gwaith a'r cartref? Sut y gall Care First gefnogi rheolwyr a gweithwyr gyda'u lles meddyliol. |
29 Ebrill 2024 |
Physical Wellbeing - Sun safety Mae'r weminar hon yn rhoi dealltwriaeth i wylwyr o bwysigrwydd diogelwch yn yr haul a sut y gall tywydd cynnes effeithio ar eich iechyd corfforol a meddyliol. |
26 Ebrill 2024 |
Mental Wellbeing - Managing stress and pressure at work Mae'r weminar hon yn rhoi cyngor ar sut y gallwch adnabod yr arwyddion eich bod o dan straen yn y gwaith a rhai camau y gallwch eu cymryd i ddechrau ei reoli. |
19 Ebrill 2024 |
Supporting others through the menopause Bydd y sesiwn hon yn cael ei rhedeg gan Fentor Menopos Care First, Suzanne. Yn y weminar hon, byddwn yn ystyried ffyrdd o gefnogi unigolion sy'n mynd trwy'r menopos ac yn cyffwrdd â'r cysyniad o fenopos gwrywaidd, y cyfeirir ato'n aml fel andropos. |
12 Ebrill 2024 |
Stress Awareness Month Yn unol â Mis Ymwybyddiaeth Straen, mae'r weminar hon yn edrych ar sut y gall straen effeithio ar ein bywydau o ddydd i ddydd wrth fanylu ar dechnegau a strategaethau ar gyfer helpu i reoli straen. |
5 Ebrill 2024 |
Managing your Finances with PayPlan Sesiwn gyda siaradwr gwadd, Antony Price, o PayPlan, yr Arbenigwyr Rheoli Cyllid a Dyledion. Nod y weminar hon yw cefnogi gwrandawyr gydag awgrymiadau i helpu i reoli eu cyllid. |
18 Mawrth 2024 |
Neurodiversity Celebration Week Mae'r weminar hon yn sesiwn gryno ar niwroamrywiaeth a'r manteision o gael amrywioldeb yn y gweithle. |
13 Mawrth 2024 |
Sleep and anxiety, in line with World Sleep Day Gweminar sy'n manylu ar sut y gall diffyg cwsg greu pryder a pha newidiadau y gallwch roi cynnig arnynt i leihau effaith hyn ar eich lles cyffredinol. |
8 Mawrth 2024 |
International Women’s Day Yn unol â'r thema eleni 'Ysbrydoli Cynhwysiant', mae'r weminar hon yn trafod ysbrydoli eraill i ddeall a gwerthfawrogi cynhwysiant menywod, ac effaith a phwysigrwydd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar ein hiechyd meddwl. |
26 Chwefror 2024 |
Pets and Mental Health – What are the Benefits? Mae'r weminar hon yn rhoi manylion ynghylch sut a pham mae pobl yn defnyddio'r rhyngweithio ag anifeiliaid i wella eu hiechyd meddwl yn gadarnhaol. |