Archebu Cyfieithydd IAP
Beth yw Iaith Arwyddion Prydeinig?
Iaith Arwyddion Prydeinig (neu IAP) yw’r iaith sy’n ddewis cyntaf yn y gymuned fyddar; derbynnir yr iaith gan iaethyddion a’r Llywodraeth Brydeinig fel iaith ynddo’i hun.
Nid meimio ac ystumio yn unig yw IAP, nac system o sillafu. Mae’n iaith weledol sydd, yn debyg i ddau draean o ieithoedd y byd, heb ffurf ysgrifenedig. Mae gan IAP eirfa gyfoethog, strwythur gramadegol a chystrawen yn union fel unrhyw iaith lafar ac ysgrifenedig.
Dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, mae’n rhaid i holl ddarparwyr gwasanaeth wneud newidiadau rhesymol er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau o fewn cyrraedd i bawb, gan gynnwys y bobl sy’n defnyddio IAP. Rhai enghreifftiau o be all fod yn newidiadau ac addasiadau; ailbennu dyletswydd ni all weithwyr anabl gwblhau, darparu man parcio cyfagos ar gyfer gweithwyr anabl, darparu offer angenrheidiol, cyfnewid offer, ail-leoli gweithwyr anabl i fod mewn rôl sydd ddim yn wynebu’r cyhoedd, caniatáu egwylion rheolaidd er mwyn ymdopi gydag anabledd, ac yn y blaen.
Cofiwch – nid yw pob person byddar yn defnyddio IAP, gofynnwch i'r unigolyn ym mha fodd sydd well ganddynt i gyfathrebu. Os oes well ganddynt i ddefnyddio IAP, efallai bod ganddynt gyfiaethydd maent yn ei ddefnyddio yn barod. Rheolir gyfiaethwyr trwy gorff o’r enw Cofrestr Genedlaethol o Weithwyr Proffesiynol sy’n Gweithio gyda phobl Ddall a Byddar Ddall (NRCPD). Mae'r holl gyfiaethwyr sydd wedi rhwymo i’r NRCPD yn dilyn cod ymddygiad. Golygai hynny bydd rhaid iddynt barchu cyfrinachedd aros yn gwbl ddiduedd.
Sut i archebu cyfathrebydd neu gyfieithydd
Gan fod prinder cenedlaethol o cyfieithwyr sy’n dal y cymwysterau addas, rhaid eu harchebu sawl wythnos ymlaen llaw lle bod modd, neu i fod yn hyblyg o ran dyddiad ac amser.
Pan fyddwch yn archebu Cyfieithydd rhaid darparu’r manylion cychwynnol canlynol:
- Y math o aseiniad (cyfweliad swydd, cyfarfod, cynhadledd ayb.)
- Dyddiad, amser a hyd yr apwyntiad.
Os bydd y cyiaethydd ar gael, darparwch ragor o wybodaeth, megis:
- Pwnc
- Gofynion
- Ffioedd
- Cyfeiriad yr aseiniad
- Manylion ffon/ffacs
- Enw’r unigolyn cyswllt
- Enw a chyfeiriad y person dylai dderbyn yr anfoneb.
Er mwyn archebu Cyfieithydd IAP yng Ngheredigion, cysylltwch â:
Gwasanaeth Cyfieithu a Dehongli Cymru
- Rhif ffôn: 02920537555
- Gwefan: https://www.wits.wales/
Mi fydd rhaid i holl gostau Gwasanaeth Cyfiaithu a Dehongli Cymru ddod o gyllid adrannol. Os oes unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Dylan Jones, Rheolwr Cydraddoldeb a Chynhwysiant – cydraddoldeb@aber.ac.uk, rhif ffôn: 01970628424.