Gofod Ffydd Y Brifysgol
Yn y Gofod Ffydd gall aelodau o gymuned ein Prifysgol weddïo, cwrdd ac ymlacio – i ddefnyddio’r gofod, ewch i Galendr y ‘Gofod Ffydd’ a nodi pryd yr hoffech ei ddefnyddio. Isod ceir rhai Cwestiynau Cyffredin a fydd, gobeithio, o gymorth ichi.
Cwestiynau Cyffredin am y Gofod Ffydd
Ymhle y mae’r Gofod Ffydd?
Mae’r Gofod Ffydd yng Nghanolfan y Celfyddydau, i’r dde i Gaffi’r Piazza. Mae’r drws er mwyn cael mynediad iddo y tu allan i’r adeilad, ar yr ochr sy’n wynebu adeilad Undeb y Myfyrwyr.
Pwy sy’n cael defnyddio’r Gofod Ffydd?
Mae’r Gofod Ffydd ar gael i holl aelodau’r staff, myfyrwyr cofrestredig a chymdeithasau ffydd a gydnabyddir gan Undeb y Myfyrwyr.
A ellir defnyddio’r Gofod Ffydd unrhyw bryd?
Mae'r Gofod Ffydd ar agor 7 diwrnod yr wythnos.
Rhwng 8yb-5yp gall aelodau o'n gymuned cael mynediad i'r gofod wrth roi ei cerdyn Aber ar y clo SALTO. Ar ol 5yp bydd gofyn i staff a myfyrwyr mynd i Galendr y ‘Gofod Ffydd’ a nodi pryd yr hoffech ei ddefnyddio. Mae hyn oherwydd gyda'r nos mae'n fwy tebygol y bydd grwpiau/cymdeithasau yn defnyddio'r gofod ar gyfer cyfarfodydd a chymdeithasu.
Sut gallaf drefnu i ddefnyddio’r Gofod Ffydd?
Rhwng 8yb-5yp gall aelodau o'n gymuned cael mynediad i'r gofod wrth roi ei cerdyn Aber ar y clo SALTO. Ar ol 5yh, bydd angen i chi fynd i Galendr y ‘Gofod Ffydd’ a nodi pryd yr hoffech ei ddefnyddio.
- Sut gallaf ychwanegu ystafell at fy apwyntiad yn y calendr? (Outlook)
https://faqs.aber.ac.uk/index.php?id=1485 - Sut gallaf ychwanegu ystafell at fy apwyntiad yn y calendr? (Gwe-bost)
https://faqs.aber.ac.uk/index.php?id=1484
Sut gallaf fynd i mewn i’r Gofod Ffydd?
I gael mynediad i'r Gofod Ffydd rhwng 8yb a 5yh bydd angen i chi roi eich cerdyn Aber ar y clo SALTO wrth fynd i mewn, ac eto wrth ymadael. Ar ol 5yh, bydd angen i chi fynd i Galendr y ‘Gofod Ffydd’ a nodi pryd yr hoffech ei ddefnyddio.
Pwy sy’n berchen ar y Gofod Ffydd?
Mae’r Gofod Ffydd yn eiddo i gymuned y Brifysgol ond mae’r defnydd ohono yn cael ei weinyddu gan y Staff Amrywioldeb a Chynhwysiant. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â cydraddoldeb@aber.ac.uk neu dej20@aber.ac.uk.