Ynglŷn â Chydraddoldeb
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i ddatblygu a hybu cydraddoldeb ac amrywioldeb ym mhob agwedd ar ein hymarfer a'n gweithgareddau. Ein nod yw gweithio ac astudio, gan ddarparu diwylliant cynhwysol, heb wahaniaethu, ac arddel gwerthoedd parch, urddas a chwrteisi. Mae gan bawb yr hawl i gael eu trin yn unol â'r gwerthoedd hyn.
Rydym yn ymroddedig i hybu cydraddoldeb ar sail oedran, anabledd, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol, hil, ailbennu rhywedd, crefydd a chred (gan gynnwys anghrediniaeth), priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, ac i groesawu aml-hunaniaeth a chodi ymwybyddiaeth ar draws gwahanol grwpiau.
Mae holl bolisiau Prifysgol Aberystwyth staff a myfyrwyr yn berthnasol i gymuned gyfan y Brifysgol (felly, er enghraifft, polisiau sy'n ystyriol o deuluoedd yn berthnasol i bob aelod o staff, beth bynnag yw eu cyfeiriadedd rhywiol; mae hyn yn wir am ein Polisi Urddas a Pharch, ac ar gyfer pob polisi yn y Brifysgol.) Mae croeso i chi gysyltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau neu ar gyfer staff gwelwch y wefan Adnoddau Dynol.
Os ydych angen unrhyw un o'r wybodaeth ganlynol yn ffurf arall, er enghraifft Braille, Adysgrifau Sain, ac ati, cysylltwch â Dylan Jones ar 01970 62 1652 neu equstaff@aber.ac.uk
Rhoddir yr ymrywiad hwn ar waith drwy’s Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Mae’r Cynllun yn nodi ein hymrwymiad i hyrwyddo cymuned deg, gyfartal ac amrywiol I’n myfyrwyr, ein staff a’n hymwelwyr.