Caiff Ymwelwyr barcio yn y maes parcio Talu ac Arddangos yng Nghanolfan y Celfyddydau, gan sicrhau bod y ffi gywir yn cael ei thalu a bod tocyn dilys yn cael ei arddangos.
Caiff Defnyddwyr y Ganolfan Chwaraeon barcio ym maes parcio pwrpasol y Ganolfan Chwaraeon, sydd â therfyn parcio o 3 awr, heb ddychwelyd o fewn 2 awr.
Mae'r grwpiau canlynol hefyd wedi'u heithrio rhag prynu trwydded barcio:
- Ymwelwyr ar eu gwyliau- bydd trwydded bwrpasol yn cael ei chyhoeddi gan staff y Swyddfa Gynadleddau.
- Cynrychiolwyr Cynadleddau (Ystafelloedd MedRus yn unig)- cyhoeddir gan staff y Swyddfa Gynadleddau.
- Cynrychiolwyr Cynadleddau (mewn mannau eraill o fewn y Brifysgol)- dylai cynrychiolwyr sy'n mynychu cynadleddau, seminarau neu ddigwyddiadau arbennig eraill sydd wedi'u trefnu o flaen llaw gysylltu â’r staff diogelwch ymhell o flaen llaw. Gellir wedyn ystyried a chytuno ar drefniadau parcio arbennig er mwyn sicrhau y gellir lliniaru’r effaith sy'n deillio o hynny ar weithgareddau arferol y Brifysgol.
- Ymwelwyr achlysurol ag adrannau- gall staff diogelwch roi trwydded barcio ddydd i ymwelwyr heb unrhyw gost pan fydd yr adran berthnasol yn rhoi gwybod iddynt o flaen llaw.
- Contractwyr a gweithwyr allanol eraill- Gall staff Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd roi trwydded dros dro i gontractwyr, sydd ar gael o derbynfa Penbryn.
Os ydych chi’n credu eich bod yn dod o dan un o'r categorïau a nodir uchod, cysylltwch â'r adran/trefnydd yr ydych yn ymweld â hwy i gadarnhau a fyddwch yn cael y drwydded hon.