Gwastraff
Newid trefniadau ailgylchu yn y gweithle.
O 6 Ebrill 2024, bydd y gyfraith yn mynnu bod pob busnes, elusen a sefydliad yn y sector cyhoeddus yn didoli eu gwastraff i’w ailgylchu. Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r gyfraith i wella ansawdd ein dulliau casglu a didoli gwastraff ac i gynyddu’r hyn a ailgylchir.
Pa wastraff sydd angen ei ddidoli?
Er mwyn cynorthwyo i ddidoli gwastraff, bydd biniau newydd yn cael eu gosod ledled y campws yn ogystal â diweddaru'r biniau sydd yno eisoes. Yn y rhan fwyaf o goridorau mewn adeiladau ar draws y safle bydd hyn yn creu tair ffrwd wastraff ar wahân lle bu dwy ffrwd o'r blaen. Bydd deunydd cymysg sych i’w ailgylchu yn mynd yn ddwy ffrwd wastraff ar wahân; Papur/Cerdyn a Phlastig/Metel.
Pam aigylchu?
Biffa sy'n gyfrifol am gasglu gwastraff cyffredinol a deunydd ailgylchu’r Brifysgol. Mae Biffa yn cefnogi strategaeth 'Sero Net' Llywodraeth Cymru a'i nod yw gwella cyfraddau ailgylchu ac adfer gwastraff. Mae mwy o wybodaeth am eu canllaw ar y rheoliadau ailgylchu newydd ar gael yma: Ailgylchu yn y Gweithle - Biffa.
LAS Recycling sy’n casglu gwastraff bwyd a gwydr. Trwy wahanu'ch gwastraff bwyd, gall LAS helpu i leihau effaith amgylcheddol y brifysgol a chyrraedd targedau cynaliadwyedd yn ogystal â lleihau costau casglu. Trwy wahanu gwastraff gwydr, gall y brifysgol hybu cyfraddau ailgylchu a lleihau costau rheoli gwastraff ar yr un pryd. Mae mwy o wybodaeth am wasanaeth casglu LAS ar gael yma: lasrecycling.co.uk.
Dilynwch y canllawiau hyn i ailgylchu'n effeithiol mewn ystafelloedd dosbarth neu weithleoedd, swyddfeydd, ceginau neu leoedd bwyd: |
---|
Ie plis:
|
Ie plis:
|
Ie plis:
|
Ie plis:
|
Ie plis:
|
Na dim diolch:
|
Na dim diolch:
|
Na dim diolch:
|
Na dim diolch:
|
Na dim diolch:
|
Cwestiynau ailgylchu
Ydych chi erioed wedi mynd i daflu rhywbeth i ffwrdd ac yn sydyn wedi sylweddoli nad ydych yn siŵr pa fin y dylech ei ddefnyddio? Defnyddiwch ein Cwestiynau Cyffredin isod i'ch helpu i ddewis y bin gorau ar gyfer eich sbwriel. Os oes gennych ragor o gwestiynau, e-bostiwch y Tîm Cyfleusterau ar cyfleusterau@aber.ac.uk.