Gwasanaethau Porthora
Mae ein Tîm Porthora yn gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener yn bennaf (ac eithrio’r cyfnodau pan fo’r Brifysgol ar gau a Gwyliau Banc) ar draws llawer o'n Campysau ac ar y cyrion gan ddarparu ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys:
- Rheoli'r ffrydiau gwastraff a'r storfeydd biniau ar gyfer dros 480 tunnell o wastraff y flwyddyn
- Symud a storio gwastraff cyfrinachol i'w gasglu a'i waredu
- Gosod trefn ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd, dysgu a digwyddiadau
- Cludo parseli ac offer o gwmpas a rhwng Campysau
- Cadw'r ardal yn union y tu allan i bob adeilad ar y campws yn lân ac yn ddiogel
- Gwagio'r biniau sbwriel allanol a chasglu sbwriel o’r ardaloedd o fewn cyrraedd o gwmpas Campws Penglais
- Glanhau arwyddion allanol ar lefel y ddaear
- Glanhau ardaloedd palmantog a llwybrau yn drylwyr
- Rhoi cymorth i ddigwyddiadau fel Diwrnodau Agored, Diwrnodau Ymweld a Graddio
- Gosod trefn ystafelloedd ar gyfer arholiadau a chynorthwyo
- Glanhau carpedi a chlustogwaith yn drylwyr
- Selio a sgleinio lloriau
- Graeanu'r Campysau yn ystod tywydd garw ar y cyd â thimau mewnol ac allanol eraill
- Glanhau mewn achosion o argyfwng
- Cyfnewid nwyddau gwyn o fewn y neuaddau preswyl
Gweler ein Cytundeb Lefel Gwasanaeth - Gwasanaethau Porthora (Saesneg yn unig)