Tîm Gwasanaethau Eiddo
Mae'r Tîm Gwasanaethau Eiddo yn gwneud gwaith cynnal a chadw ataliol ar adeiladau’r Brifysgol mewn ymateb i sefyllfaoedd penodol a gwaith a gynlluniwyd ymlaen llaw. Maent yn sicrhau bod y campysau a'r adeiladau yn parhau i fod yn addas ar gyfer dysgu ac ymchwil effeithiol.
Gellir cysylltu â'r tîm trwy e-bost ar cahstaff@aber.ac.uk.
Cyfrifoldebau Cynnal a Chadw yr Adran Ystadau
Mae gan yr Adran Ystadau gyllideb flynyddol ar gyfer cynnal ac atgyweirio’r adeiladwaith presennol, y prif wasanaethau, y ffyrdd a’r dirwedd. Ni fwriedir iddo ddarparu ar gyfer gosod a/neu gynnal a chadw peiriannau ac offer adrannol arbenigol. Mae'r ddogfen hon yn mynd ati i egluro’r cyfrifoldebau ariannol am waith atgyweirio/cynnal a chadw adeiladau ac offer sydd rhwng yr Adran Ystadau ac adrannau unigol academaidd ac anacademaidd.
Mae'r rhestr isod yn rhoi canllaw i’r meysydd o gyfrifoldebau. Fodd bynnag, nid yw'r rhestr yn gynhwysfawr. Bydd unrhyw anghydfod neu anghytundeb yn cael ei ddatrys gan y Cyfarwyddwr Ystadau, Adnoddau a Llety, sy'n gyfrifol am yr holl wariant o gyllideb Ystâd y Brifysgol, a’r Pennaeth adrannol perthnasol.
Gall gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio gael ei wneud gan staff mewnol neu gontractwyr allanol. Er y bydd yr Adran Ystadau fel arfer yn gwneud gwaith yn fewnol, ar adegau pan fo angen galw ar gontractwyr allanol i wneud y gwaith sy’n daladwy gan adrannau, bydd cyfanswm y gost yn cael ei ailgodi. Bydd unrhyw waith yr adroddwyd amdano ond ni chanfuwyd nam yn arwain at ad-daliad am amser y gweithwyr.
Cyfrifoldebau Cyllideb yr Adran Ystadau | Cyfrifoldebau Cyllideb Adrannol |
---|---|
|
|