Eiddo Coll
Nid yw'r Brifysgol yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddiogelwch eiddo personol y defnyddiwr. Byddwch cystal â gofalu am eich eiddo a labelu dyfeisiau cludadwy gyda'ch enw llawn, rhif cyfeirnod myfyriwr neu enw defnyddiwr.
Dylai unrhyw eiddo coll gael ei gyflwyno i Borthorion yr Adeilad neu i’r ddesg ymholiadau yn Llyfrgell Hugh Owen.
Bydd eiddo coll yn cael ei gofnodi ar ein cronfa ddata Eiddo Coll.
Byddwn yn ceisio canfod perchennog unrhyw eiddo coll a, lle bo’n bosibl, byddwn yn cysylltu â nhw i roi gwybod iddynt fod yr eitem wedi’i darganfod.
Dychwelir eitemau yn y cyflwr y cawsant eu derbyn.
Os ydych yn chwilio am eitemau o eiddo coll, cysylltwch â Phorthorion yr Adeilad neu Staff y Llyfrgell gyda disgrifiad manwl o’r eitem yn ogystal â’r dyddiad y’i collwyd.
I gysylltu â Phorthorion yr Adeilad:
Lleoliad Swyddfa’r Porthorion |
Rhif Cyswllt |
Adeiladau perthnasol |
---|---|---|
Adeilad Hugh Owen |
2872 |
Hugh Owen, Parry Williams, P5, P4 |
Adeilad Llandinam |
2876 |
Daearyddiaeth, Llandinam, Cyfrifiadureg, Ffiseg, Gwleidyddiaeth Ryngwladol |
Adeilad Edward Llwyd |
2873 |
Y Ganolfan Ddelweddu, Cledwyn, Ibers Newydd, Edward Llwyd |
Adeilad William Davies, Gogerddan |
3025 |
Holl Adeiladau Campws Gogerddan |
Adeilad Elystan Morgan |
2877 |
Holl Adeiladau Campws Llanbadarn |
Yr Hen Goleg |
2064 |
Yr Hen Goleg, Maes Lowri, Theatr y Castell, Yr Ysgol Gelf |
Gofynnir i unrhyw un sy’n hawlio eiddo i ddangos eu Cerdyn Aber neu gerdyn adnabod arall i gadarnhau eu hunaniaeth a gofynnir iddynt am wybodaeth fanwl am yr eitem i brofi perchnogaeth. Os yw’r eitem sy’n cael ei hawlio yn cynnwys gwybodaeth adnabod sy’n cynnwys llun, byddwn yn gwirio bod y llun yn cyfateb i’r hawlydd.
Os na hawlir eiddo coll o fewn y cyfnod cadw, caiff ei ailgylchu neu ei waredu mewn modd cyfrifol. Caiff yr holl ddata personol ei dynnu a’i ddinistrio’n ddiogel.
Amseroedd cadw a gwaredu eiddo coll
|
Eitemau Gwerthfawr |
Eitemau sy'n cynnwys Data Personol |
Bwyd a Diod |
Eitemau Eraill |
|
Gemwaith |
Pasbport |
Bydd bwyd a diod yn cael eu waredu ar unwaith. |
Dillad |
Gweithred |
Os oes modd adnabod y perchennog, cysylltir â hwy yn eu cynghori i gasglu'r eitem o'r Llyfrgell. Bydd eitemau'n cael eu cadw am bythefnos, ac wedi hynny byddant yn cael eu hailgylchu neu eu rhoi i elusen fel sy'n briodol.. Os oes modd adnabod y perchennog, cysylltir â hwy yn eu cynghori i gasglu'r eitem o'r Llyfrgell. Rhaid i berchnogion gasglu eitemau o fewn pythefnos i'r hysbysiad. |
Os oes modd adnabod y perchennog, cysylltir â hwy yn eu cynghori i gasglu'r eitem o'r Llyfrgell. Rhaid i berchnogion gasglu eitemau o fewn pythefnos i'r hysbysiad. Os na ellir adnabod y perchennog, ymdrinnir â'r eitemau fel a ganlyn:
|
|
Cedwir eitemau am bythefnos cyn cael eu hailgylchu neu eu rhoi i elusen |