Penwythnos Aduniad Cyn-fyfyrwyr
Manylion y digwyddiad
Dathliad arbennig o Hanner Canmlwyddiant yr Adran Cyfrifiadureg gyda'r Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr.
Croeso cynnes i gyn-fyfyrwyr, staff a ffrindiau (o bob degawd ac o bob adran) wrth inni ddod ynghyd â'r Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr i ddathlu datblygiadau’r Brifysgol, yn y gorffennol a'r dyfodol, gan gynnwys hanner canmlwyddiant ein Hadran Cyfrifiadureg arloesol.
Cyfle gwych i ailgysylltu ac hel atgofion gyda hen ffrindiau, cwrdd â chyfoedion a gweld beth sydd wedi newid ers pan oeddech chi’n fyfyriwr yn Aber.
Pryd a ble
Dydd Gwener 26 Mehefin i Ddydd Sul 28 Mehefin 2020
Dydd Gwener 26 Mehefin
1630 – 1730 Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol CCF
Hen Goleg, Ystafell Seddon
1800 – 2000 Derbyniad Croeso
Hen Goleg, Hen Neuadd
2000 – 2200 Cwis Tafarn (Gwybodaeth gyffredinol)
Lleoliad yn y dref (i'w gadarnhau)
Dydd Sadwrn 27 Mehefin
Amryw o ddigwyddiadau yn yr Adran Cyfrifiadureg ar Gampws Penglais (manylion pellach i ddilyn)
1000 - 1230 Penblwydd Hapus! Dathlu gyda paned a chacen
Campws Penglais
1900 – 2200 Swper dathlu
Medrus, Campws Penglais
Archebwch yma
Mwy o fanylion i ddilyn yn agosach at y digwyddiad