Penwythnos Aduniad 2024
29 Mehefin 2024
Aduniad Blynyddol
Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr (CCF) a Chyn-fyfyrwyr
Dathlu 50 fed Pen-blwydd yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
Dewch i ymuno â Chymdeithas y Cyn-fyfyrwyr (CCF), cyn-fyfyrwyr a ffrindiau yn ein haduniad blynyddol sydd eleni hefyd yn dathlu hanner canrif o Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.
Ar un peth â blynyddoedd blaenorol, bydd CCF yn cynnal cinio aduniad (codir tâl).
Archebion ar gau
Rhaglen o ddigwyddiadau
28 Mehefin
19:00 Digwyddiad croeso anffurfiol ym mar blaen gwesty'r Marine, Glan-Y-Mor, Aberystwyth, SY23 2DA
29 Mehefin
Cofrestrwch wrth y ddesg gofrestru i gasglu eich pecyn croeso
09.30 – 11:00 Derbynfa MedRus
neu
12:30 – 14:00 cyntedd adeilad Parry Williams
10.30 - 12.30 MedRus
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol CCF
Bydd cyfle i aelodau gwrdd â’r Is-Ganghellor newydd, ac fe fydd cinio ysgafn ar gael.
13:00 – 15:00 Adeilad Parry Williams
Stiwdio’r Ffowndri
Cyflwyniadau
Yr Athro Jon Timmis - Is-Ganghellor
Dr Kim Knowles: Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Pennaeth Adran
Cipolwg ar ymchwil staff:
Kate Woodward: Y gorffennol, presennol a dyfodol fideos cerddoriaeth Gymraeg
Jamie Medhurst: Hanesion y BBC
Lucy Gough a Piotr Woycicki: Addasu drama radio i VR, ynghyd ag arddangosiad VR
Sinema
Cyfle i weld detholiad o ffilmiau myfyrwyr
Diodydd meddal ar gael yn y cyntedd.
Straeon Cyn-fyfyrwyr
Rhannwch eich stori i ysbrydoli myfyrwyr presennol a chyd-raddedigion
Ar gael 14:30 - 17:30 Ty Trafod
15:00 – 17:00 Ty Trafod
Dewch i ymweld â’n Canolfan Ddeialog
Cyfle i ymlacio a sgwrsio â chyn-fyfyrwyr eraill dros baned. Yn cynnwys sesiwn flasu gan Dysgu Gydol Oes.
15:00 – 16:00 Pantycelyn
Derbyniad i aelodau Cylch Cyfrannu a Rhoddwyr yr Is-Ganghellor– Drwy wahoddiad yn unig
16:00 – 17:00 Taith o amgylch Pantycelyn
Taith ddewisol i’r rheini sydd â diddordeb yn natblygiad yr adeilad hanesyddol hwn.
18:30 – 22:00 Cinio Aduniad
Mwynhewch bryd tri chwrs gwych gyda'ch cyn-fyfyrwyr / ffrindiau OSA (hen a newydd!) yn ystod ein cinio aduniad blynyddol yn Medrus. Yn cynnwys gwasanaeth bwrdd llawn gan gynnwys gwin, te, coffi a petis fours
Yn ymuno a ni fydd y Siaradwr Gwadd, Jim O’Rourke, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar brosiect yr Hen Goleg. Bydd y cyflwyniad yn cynnwys y newyddion ar ddatblygiadau diweddaraf, wrth ddatgelu’r cynnydd sy’n cael ei wneud ar ailddatblygu’r Hen Goleg.
Fe’n swynwyd ni i gyd gan Jim y llynedd gyda’i sesiynau poblogaidd ar sut bydd y weledigaeth ar gyfer yr Hen Goleg yn dod yn fyw, a bydd yn wych gweld y diweddariadau diweddaraf!
30 Mehefin
10:00 Bandstand
Mae aelodau CCF yn edrych ymlaen at gyfarfod yn y Bandstand i "gicio'r bar" – croeso cynnes i bawb!
Digwyddiadau eraill a gynhelir yn Aberystwyth dros y penwythnos.
Noder nad yw'r rhain yn rhan o benwythnos yr aduniad a rhaid eu harchebu ar wahân.
30 Mehefin
11:00 Gwaddol Rosemary
Mae Ali Pierse yn cynnal taith gerdded storïol ymdrwythol, yn seiliedig ar lythyrau caru dau o israddedigion yn Aber yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Am fanylion ewch i https://aberdabbadoo.com/about/
Mynediad Agored i’r Plas
Prynhawn Sul Mehefin 30ain
Gweithgaredd ‘Y Bydoedd a Fynnwn’ gan Brifysgol Aberystwyth i feithrin ymdeimlad o gydberchnogaeth ar fannau prifysgol a myfyrio ar hanes y sefydliad a’i gysylltiadau byd-eang a’i etifeddiaeth.
• 1yp-2yp Ystafelloedd derbyn ar y llawr gwaelod ar agor i ymwelwyr eu gweld.
• 2yp Caroline Palmer – arbennigwraig ar gerddi hanesyddol Cymru ac awdur 'Historic Parks and
Gardens in Ceredigion' (2004) yn roi sgwrs fer a thaith am hanes y tŷ a'r gerddi.
• 3yp Chloe GriNiths – Ecolegydd, athrawes, myfyrwraig PhD gwyddoniaeth dinasyddion, ac aelod
o Gymdeithas Fotaneg Aberystwyth yn tywys grwpiau bach o amgylch gerddi’r Plas ar helfa pryfed
pili pala.
• 4yp Bydd Milja Kurki, Joseph Thurgate a Dylan Gwynn Jones yn arwain taith gerdded awr o hyd o
Dŷ Trofannol i Nerm solar.
*Mae parcio ar gael ar y campws ar draws y Nordd. Croeswch wrth yr ynys draNig yn unig a
chymerwch ofal. Dylai ymwelwyr gadw at lwybrau dynodedig a mynd gyda thywyswyr bob amser,
bod yn ymwybodol o dir anwastad, a gwisgo ar gyfer tywydd gwlyb posibl – dillad glaw,
botas/esgidiau gweddus.
Os hoffech archebu llety yn y Brifysgol, mae rhagor o wybodaeth i’w gweld yma.
Fel arall, cysylltwch â'r Ganolfan Croeso i weld beth sydd ar gael yn y dref: www.darganfodceredigion.co.uk.
Ebostiwch datblygu@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 621568 yn ystod oriau gwaith os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yno.
Gyda dymuniadau gorau,
Lauren Marks, Llywydd CCF
Lyndsey Stokes, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni