Penwythnos Aduniad 2023
Manylion y digwyddiad
Mae gan Brifysgol Aberystwyth nifer o resymau i ddathlu'r Penwythnos Aduniad hwn, 150 mlynedd ers i'r Brifysgol agor ei drysau am y tro cyntaf a 130 mlynedd ers sefydlu Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr. Arben hynny, mae sawl adran academaidd hefyd yn dathlu cerrig milltir pwysig ac yn bwriadu cynnal eu digwyddiadau adrannol eu hunain.
I weld uchafbwyntiau Penwythnos Aduniad Alumni cliciwch yma
Ffiseg a Mathemateg 150 mlynedd
Addysg a Saesneg a Ysgrifennu Creadigol 130 mlynedd
Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn dathlu - 50 adran Ddrama
Canolfan y Celfyddydau 50 mlynedd
Cyfrifiadureg 50 mlynedd (2020)
Mae Penwythnos yr Aduniad yn gyfle i gyn-fyfyrwyr, cyn-aelodau staff a chyfeillion Aber ddod ynghyd i ddathlu ein hanes a’n llwyddiant a datblygiadau arfaethedig ar gyfer y dyfodol.
Ysgrifennu Creadigol 130 mlynedd
Canolfan y Celfyddydau 50 mlynedd
Mae Penwythnos yr Aduniad yn gyfle i gyn-fyfyrwyr, cyn-aelodau staff a chyfeillion Aber ddod ynghyd i ddathlu ein hanes a’n llwyddiant a datblygiadau arfaethedig ar gyfer y dyfodol.
Rhaglen Penwythnos Aduniad Alumni 2023
Dydd Gwener 23 Mehefin
Derbyniad Croeso
Ystafell Iris de Freitas, Llyfrgell Hugh Owen
19.00-21.00 – Ymunwch â ni am dderbyniad yn edrych dros y campws gyda diodydd, canapes a chacen cylchwyl 150fed. Bydd nifer o siaradwyr yn eich croesawu yn ôl i Aberystwyth, ac mae’n gyfle i edrych ar y rhannau o’r llyfrgell sydd wedi’u hadnewyddu’n ddiweddar.
Dydd Sadwrn Mehefin 24ain
Digwyddiad Dysgu Gydol Oes – Adariaeth
Tywydd da – Tu mas y Ganolfan Ddelweddu Tywydd gwael (lleoliad wrth gefn) - 0.32 (IBERS)
10:30-11:15 - Profwch yr hyn sydd ar gael yn ein hadran Dysgu Gydol Oes gyda’r tiwtor David Anning.
Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Aberystwyth CCB
Medrus 4
10:30-11:30 - CCB am y Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Aberystwyth.
Digwyddiad Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
11:00-11:45 - Taith arbennig o amgylch y Llyfrgell Genedlaethol i gyn-fyfyrwyr, gyda ffocws ar Ddeiseb Heddwch Merched Cymru.
Gorsaf lluniaeth
Cyntedd theatr/bar yng Nghanolfan y Celfyddydau
12:00-16:00 - Cyfle i stopio am luniaeth. Rhwng 12.00-12.30 bydd aelodau o’r timau Datblygu a Chysylltiadau Alumni hefyd ar gael i’ch croesawu yn ôl i’r campws.
Canrif a mwy o Astudio Cymru!
Sinema Ganolfan Y Celfyddydau
12:30-14:00 - Digwyddiad sy'n gwerthuso cyfraniad Prifysgol Aberystwyth i astudio a deall Cymru dros ganrif a mwy. Sesiwn wedi ei threfnu gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth.
Gorsaf Sganio gyda’r tîm Archifau
Ty Pictiwrs (Picture House), Undeb y Myfyrwyr
14:00-17:00 - Dewch â’ch lluniau gyda chi, lle bydd Julie Archer a chydweithwyr o Archif y Brifysgol wrth law i’w sganio i ffurfio rhan o hanes y Brifysgol.
Taith Pantycelyn ac Arddangosfeydd gyda lluniaeth
Neuadd Breswyl Pantycelyn
15:30-17:00 - Ewch ar daith o gwmpas Neuadd Breswyl Pantycelyn ar ei newydd wedd.
Digwyddiad Dysgu Gydol Oes – Hanes Celf
Ystafell 206, Yr Ysgol Gelf, Adeilad Edward Davies
17:00-17:45 - Rhowch gynnig ar rywbeth newydd yn y sesiwn ryngweithiol hon gan edrych yn agos ar rai o'r eitemau o'r casgliad gyda'r tiwtor Helena Anderson. Mae'r sesiwn hon hefyd yn cyflwyno'r cyfle i edrych y tu mewn i'r adeilad hanesyddol eiconig hwn.
Swper Dathlu 150fed CCA
Medrus
18:30-21:30 - Cinio arbennig i ddathlu 150 mlynedd o Brifysgol Aberystwyth, gyda nifer o siaradwyr gwadd. Cyfle gwych i gwrdd â hen ffrindiau, yn ogystal â chysylltu â chyn-fyfyrwyr eraill ac aelodau presennol o staff.
Parti yn y Pier!
The Brasserie, Royal Pier
21:00-01:00 - AM DDIM Parti i gyn-fyfyrwyr a staff gyda'r DJ gwadd Eddy Scissorhands, yn cael ei gynnal yn y Brasserie.
Dydd Sul Mehefin 25ain
Cicio'r bar!
Cyfarfod ar Stondin Band, Marine Terrace
9:30-10:30 - Deffro gydag awel y môr ac ymunwch â ni ar gyfer un o draddodiadau hynaf y Brifysgol – taith gerdded ar hyd y prom i gicio’r bar! Cyfle gwych i dynnu lluniau i gofio'r penwythnos.
Diweddariad ar Brosiect yr Hen Goleg
Y Cambria
10:30-11:30 & 11:45-12:45 - Clywch gan ffigurau allweddol Prosiect yr Hen Goleg am y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud, a beth sydd nesaf ar gyfer yr adeilad eiconig hwn. (2 ddigwyddiad oherwydd diddordeb uchel)
Canolfan Addysg Gofal Iechyd
13:00 – 14:00 Edrychwch o gwmpas yr adran newydd a chlywed gan staff a myfyrwyr presennol am y graddau nyrsio newydd sydd ar gael.
Canolfan Addysg Milfeddygaeth
14.00 – 15.00 Cyfle i glywed gan yr uwch ddarlithydd Dr Sophie Regnault a mynd ar daith o amgylch ein Canolfan Addysg Milfeddygaeth newydd yma ar gampws Penglais, a wnaed yn bosibl gan gefnogaeth Alumni.