Tom Nordheim
Graddiodd Tom gyda BSc Gwyddor y Gofod a Roboteg yn 2009.
Ar hyn o bryd mae Tom yn wyddonydd ymchwil yng Ngrŵp Cemeg ac Astrobioleg Planedau yn Labordy Jet-yriant NASA.
"Ffocws pwysig fy ngwaith yw ymchwilio i bosibiliadau fod yna fywyd yn y bydoedd rhewllyd ar ymylon cysawd yr haul drwy ddefnyddio data o deithiau gofod. Yn ogystal â hyn, rwy'n gweithio ar fathau newydd o offer a robotiaid i'w defnyddio i archwilio amgylcheddau eithafol ar y Ddaear, gyda'r nod o baratoi at deithiau i'r gofod yn y dyfodol"