Simon Ashley
Graddiodd Simon o Aber yn 1985 gyda BSc (Econ) mewn Economeg a Gwleidyddiaeth.
Beth ydych chi'n ei gofio fwyaf am eich cyfnod yn Aber?
Heb fod mewn unrhyw drefn benodol: y bobl, byw mewn neuadd ar y prom, casglu ar gyfer Rag, Llyfrgell Hugh Owen (lle roedd ystyr arbennig i "ddarllen ar gyfer eich gradd" - yn enwedig yn fy mlwyddyn olaf) a'r ddringfa yna ar droed i fyny Rhiw Penglais!
Beth ydych chi'n ei wneud yn awr o ran gyrfa a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi eich cynorthwyo?
Astudiais Economeg a Gwleidyddiaeth gan arbenigo yn economïau gorchymyn Dwyrain Ewrop, ac wedi cymryd blwyddyn allan es ymlaen i gymhwyso fel cyfrifydd siartredig ACA gyda chwmni cyfrifyddu mawr. O safbwynt uniongyrchol, dim ond cam oedd fy ngradd yn y broses o ymuno â'r proffesiwn cyfrifyddu ar lefel raddedig. Roedd hwn yn llwybr yr oedd llawer iawn o bobl yn ei ddilyn ar y pryd, ond nid dyna oedd fy mwriad wrth ddewis fy ngradd. Ynghyd, rhoddodd fy ngradd BSc (Econ) a'r cymhwyster cyfrifydd siartredig ACA docyn imi i Awstralia, a hynny 30 mlynedd yn ôl bellach. Symudais i fyd diwydiant, rwyf wedi bod yn brif swyddog cyllid cwmni cyhoeddus ac yn brif weithredwr rhanbarthol, rwyf wedi gweithio yn UDA (fel rhywun o Awstralia oedd yno dros dro) a wedi gweithio fel ymgynghorydd annibynnol sy'n darparu gwasanaethau uno a chaffael i fusnesau sy'n tyfu. Heddiw rwy'n Gyfarwyddwr ar fusnes bach a chanolig eiddo preifat yn Awstralia.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sy'n astudio eich cwrs chi ar hyn o bryd?
Mae hynny'n hawdd: astudiwch y pynciau y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Fel arfer, mae pobl yn rhagori pan fydd ganddynt ddiddordeb mewn pwnc a phan maent yn ei fwynhau. Mae'n debyg y bydd yn rhaid ichi ddilyn astudiaethau uwchraddedig wedi ichi symud i'r byd proffesiynol, a bydd rhai o'r rheini yn gyrsiau a fydd yn fodd i gyrraedd eich nod a dim mwy, felly mwynhewch eich opsiynau heddiw. Ond yn bennaf oll (a bydd hyn yn swnio braidd yn ystrydebol), gweithiwch yn galed A chwaraewch yn galed - ceisiwch ganfod cydbwysedd da. Mae gan Aber gyfleusterau gwych felly mwynhewch a manteisiwch i'r eithaf ar eich cyfleoedd yn gymdeithasol ac yn academaidd.