Siân Pearce
Graddiodd Siân o Aber yn 2009 gyda LLB yn y Gyfraith.
Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?
Fy ystafell yn yr atig yn Neuadd Alexandra – roeddwn i wrth fy modd gyda’r ddesg oedd yn edrych dros y môr. Rwy’n credu mai hwn yw un o fy hoff ddesgiau hyd heddiw.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr yn eich gyrfa, a sut helpodd eich gradd Aberystwyth chi?
Rwyf i’n gyfreithiwr yn arbenigo mewn achosion Mewnfudo a Lloches. Rwy’n gweithio i Ganolfan Gyfreithiol Avon and Bristol a chefais fy argymell am fy ngwaith yn Legal 500 2016. Roeddwn i’n lwcus iawn i gael gwneud yr LLB ddwy flynedd yn Aber. Dyma oedd y dewis gorau’n ariannol ac rwy’n credu y byddwn i wedi methu ymdopi’n academaidd gyda’r pwnc pe bawn i wedi mynd am y GDL. Dydych chi byth yn gwybod pryd y bydd rhywbeth bach a glywch chi mewn darlith yn ddefnyddiol.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs nawr?
Byddwch yn ddiddorol – mae’n gystadleuol allan yna ac mae llawer o bobl fydd â graddau da yn gweithio’n galed. Byddwch yn gofiadwy – sy’n golygu treulio amser yn bod yn chi eich hun yn ogystal ag oriau yn y llyfrgell!