Sarah Hall
Astudiodd Sarah Hall Saesneg yn Aber, gan raddio yn 1995. Erbyn hyn mae'n ysgrifennu nofelau arobryn megis Haweswater a The Electric Michelangelo. Mae hi hefyd yn gweithio’n llawrydd, ac wedi cael ei chomisiynu i ysgrifennu ar gyfer papurau cenedlaethol a'r radio, yn ogystal â chyfrannu at flodeugerddi ffuglen. Cyrhaeddodd ei nofel ddiweddaraf, The Wolf Border (2015), restr fer Gwobrau Sky Arts y South Bank a Gwobr Goffa James Tait Black, ac enillodd wobr 'Awdur y Flwyddyn' yng Ngwobrau Diwylliannol Cumbria Life 2015.
Beth yw eich atgofion pennaf am eich cyfnod yn Aber?
Rwy’n cofio'r môr yn Aberystwyth. Am ddwy o'r tair blynedd pan oeddwn i'n fyfyriwr yno, roeddwn yn byw yn neuaddau preswyl glan y môr, ac mae sŵn cyson y tonnau’n taro wedi creu argraff barhaol ar fy ymennydd. Roeddwn i’n arfer bod wrth fy modd yn gwylio'r adar yn codi a disgyn o dan y pier. A gwrando ar ddwndwr y bobl yn mynd i mewn ac allan o'r tafarndai. Yn bennaf oll roeddwn wrth fy modd â'r olygfa sydyn o'r dref a'r môr o ben y bryn pan fyddwch chi'n gyrru i mewn - mae'n dal i fynd â’m hanadl pan fyddaf yn ymweld. Mae Aberystwyth yn lle mor brydferth ac atgofus. Rwyf hefyd yn cofio eiriolwyr brwd Llenyddiaeth Saesneg a Hanes Celf yn y brifysgol. Roedd gan y ddwy adran ddarlithwyr oedd fel arian byw. Mae ambell un ohonynt yn dal i fod yno!
Beth ydych chi'n ei wneud ar hyn o bryd yn eich gyrfa a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi bod o gymorth ichi?
Rwy'n awdur llawn-amser erbyn hyn. Rwyf wedi ysgrifennu pum nofel a sawl stori fer. Aberystwyth oedd y lle cyntaf i mi astudio ysgrifennu creadigol. Roedd yn agoriad llygad imi. Pan fyddaf yn darllen yn ôl drwy'r llyfrau yn awr gallaf weld bod modd olrhain llawer o'm syniadaeth lenyddol - yn artistig ac yn wleidyddol - yn ôl yn fras i'r hyn yr oeddwn yn ei astudio.
Pa gyngor roddech chi i fyfyrwyr sy'n astudio eich cwrs chi ar hyn o bryd?
Fy nghyngor i fyfyrwyr sy'n astudio Saesneg neu Hanes Celf yn awr fyddai mwynhau’r profiad, a mwynhau cael ymarfer eich ymennydd mewn lle mor anhygoel. A pheidio â phoeni, o reidrwydd, am sut y gallwch ddefnyddio’r hyn rydych chi'n ei astudio'n uniongyrchol. Heb os, bydd y pynciau a'r syniadau y byddwch yn dod ar eu traws yn arwain at ddiddordebau ac yn esgor ar lwyddiannau yn y dyfodol - hyd yn oed os na ellir rhagweld y rheini eto. Rwyf wedi dysgu a darllen mewn amrywiaeth o brifysgolion a sefydliadau addysg bellach. Nid wyf eto wedi dod hyd i unman sydd wedi gwneud i mi ddechrau pendroni, hyd yn oed, ai Aberystwyth oedd y lle cywir i’w ddewis ar gyfer fy ngradd.