Rose Cooper
Graddiodd Rose o Aber yn 2015 gyda gradd MPhys mewn Ffiseg. Mae hi’n astudio ar gyfer PhD mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth ar hyn o bryd. Hefyd, yn ddiweddar, rhoddodd Rose gyflwyniad yng Nghyngres Gwyddoniaeth Planedau Ewrop (EPSC) ym mis Hydref 2016.
Beth wyt ti’n ei gofio fwyaf am dy gyfnod yn Aber?
Pobl gyfeillgar, tref neis, amgylchedd braf i fyw a gweithio ynddo. Roedd hi’n hawdd ymgartrefu yma ac roedd byw ac astudio yma yn brofiad gwych.
Beth wyt ti’n ei wneud nawr o ran gyrfa, a sut mae dy radd o Aberystwyth wedi helpu?
Rwyf bellach yn astudio ar gyfer PhD yng ngrŵp Ffiseg Cysawd yr haul, yn astudio Atmosffer Sodiwm y blaned Mercher. Dechreuodd fy niddordeb yn y pwnc hwn yn ystod fy nghwrs israddedig yn Aberystwyth, ac felly gallwn ddatblygu y sgiliau yr oedd eu hangen arnaf megis codio, dadansoddi data a chyfrifiadura yn ystod fy mhrosiect terfynol. Mi wnaeth fy ngradd fy ngalluogi i ddysgu am bynciau nad oedd gen i lawer o brofiad ohonynt ynghynt ac i ehangu fy ngwybodaeth mewn maes rwyf yn ei fwynhau. Ar ôl cael y cyfle i astudio gyda rhai o’r bobl fwyaf blaenllaw yn eu maes yn ystod fy nghwrs israddedig (yn enwedig Huw Morgan a Manuel Grande), roedd yn gwneud synnwyr imi barhau gyda fy astudiaethau yma.
Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i fyfyriwr sy’n gwneud dy gwrs di nawr?
Daliwch ati. Mae yna lawer o waith, ac mi fydd yn anodd ar adegau, ond mae’n werth yr ymdrech yn y pen draw. Gwnewch y gorau o’ch cyfnod yma a manteisiwch ar gynifer o gyfleoedd newydd ag y gallwch. Er bod y gwaith yn bwysig, eich profiadau yn y brifysgol sy’n aros yn y cof.