Peter Gradwell
Astudiodd Peter Gradwell Beirianneg Meddalwedd yn Aber, gan raddio yn 2002. Tra’r oedd yn Brifysgol sefydlodd ei gwmni cyfathrebu rhyngrwyd ei hun, sydd bellach yn cyflogi 24 o bobl ac sydd ag incwm blynyddol o £4M.
Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?
Llawer o bethau, a’r mwyaf cyson mae’n debyg yw’r mr, oedd yn hollbresennol ac yn chwarae rhan enfawr yn fy amser yno (roeddwn i’n aelod o’r clwb Caiacio, ac yn byw ger Traeth y De) ac fel y gwyddoch o bosibl, mae’n gefnlen ragorol i holl uchaf ac isafbwyntiau bywyd. Yn ail i hynny mae’r atgofion sydd gen i o fy nghyfeillion a’r gymuned wych oedd yno.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr o ran gyrfa, a sut helpodd eich Gradd o Aberystwyth?
Dechreuais i fusnes, Gradwell dot com Ltd, yn fy ail flwyddyn yn y brifysgol, a helpodd hynny dalu fy ffordd. Mae’r cwmni bellach wedi’i leoli yng Nghaerfaddon ac yn cyflogi 45 o bobl gydag incwm blynyddol o £4M. Mae wedi tyfu’n raddol er 1998 pan ddechreuodd yn Aber. Peirianneg meddalwedd yw fy ngradd. Rhoddodd fy ngradd ddau beth i mi. Yn gyntaf, offerynnau a thechnegau ymarferol yn nhermau peirianneg meddalwedd, dylunio a rheoli prosiectau, ac rwy’n defnyddio’r rhain bob dydd. Yn ail, roedd pwyslais mawr ar gael myfyrwyr “comp sci” i siarad ’i gilydd (yn nodweddiadol rydyn ni’n griw swil!) a gweithio gyda’n gilydd ac rwyf i wedi creu sawl cyfeillgarwch parhaol gydag aelodau o fy nosbarth gradd, yn ogystal ffrindiau yn y neuaddau ac yn gymdeithasol. Dysgodd y rhain werth “techies” sy’n cyd-dynnu ac sy’n gallu cydweithio - ac un o’r pethau mwyaf heriol mewn busnes sy’n cyflogi llawer o beirianwyr yw atgynhyrchu’r amgylchedd hwnnw. Yn ogystal, rhoddodd fy mlwyddyn ddiwydiannol y cyfle i mi weithio mewn cwmni mawr a deall, yn y pen draw, nad oedd hynny’n addas i mi - gwers werthfawr!
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs chi nawr?
Fel cyflogwr, rydyn ni’n gweld llawer o fyfyrwyr yn dod allan o’r cynlluniau gradd yna heb fawr o feddwl na phrofiad am y modd y byddant yn defnyddio eu gwybodaeth. Mae’n wir fod gradd yn dysgu damcaniaethau generig i chi, ond fel myfyriwr rhaid i chi eu cymhwyso i’r byd cyfredol. Felly mae chwarae ag offerynnau a thechnolegau newydd sydd ar gael, ond nad ydyn nhw’n rhan o’r maes llafur, yn hanfodol er mwyn i chi gael dysgu sut mae’r byd yn gweithio ar hyn o bryd a sut y gallwch chi gyfrannu.
Dyma gyfweliad diweddar a wnes i sy’n s'n am Aber.