Molly Cawthorn

Graddiodd Molly o Aberystwyth yn 2020 gyda gradd Meistr mewn Celfyddyd Gain, ac mae'n gweithio'n hunangyflogedig fel artist a rheolwr oriel GALLERIE V yng Nghaergrawnt.

 

Beth ydych chi'n ei gofio fwyaf am eich cyfnod yn Aber?

Astudiais Gelfyddyd Gain a Llenyddiaeth Saesneg ar gyfer fy BA, ac es ymlaen i astudio gradd Meistr llawn amser mewn Celfyddyd Gain yn yr Ysgol Gelf hardd, gan ddatblygu fy sgiliau ymhellach. Roedd y cydbwysedd rhwng annibyniaeth â'r cwricwlwm yn rhagorol. Roeddem yn parhau i dderbyn adolygiadau wythnosol hyd yn oed trwy Covid-19 yn 2020; ac fe ymdriniwyd â chyfyngiadau'r pandemig yn broffesiynol ac yn ystyriol. Fy hoff beth am Aberystwyth yw’r dirwedd a’r amgylchedd. Fel arlunydd tirluniau, bydd y cyfnod o fynd am dro bob dydd i'r bryniau wrth astudio fy ngradd Meistr, yn amser y byddaf yn ei gofio am byth. Rwy'n gobeithio ymddeol yn Aberystwyth rhyw ddydd a pharhau i beintio'r golygfeydd Cymreig.

 

Beth ydych chi'n ei wneud nawr o ran gyrfa a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi eich helpu?

Rwy'n artist a gweithiwr creadigol hunangyflogedig yng Nghaergrawnt. Yn ogystal â bod yn artist rwy'n gweithio'n llawrydd yn rhan-amser yn rheoli GALLERIE V: Oriel Ieuenctid nid-er-elw annibynnol. Ar ddiwedd 2022 bûm yn curadu ein sioe ar gyfer yr hydref lle bu artistiaid ifanc 14-25 oed yn archwilio “mytholeg, monocrom a chiarosgwro”. Rydw i mor falch o'r arddangosfa hon a'r ffordd y'i derbyniwyd gan bobl leol a myfyrwyr Prifysgol Caergrawnt. Arweiniodd y derbyniad cadarnhaol hwn at erthygl mewn papur newydd lleol Varsity, a redir gan fyfyrwyr.

Fe wnaeth fy interniaeth fel Cynorthwyydd Curadurol a Chymorth Technegol yn Oriel ac Amgueddfa’r Ysgol Gelf a drefnwyd gan wasanaeth GyrfaoeddAber ddylanwadu’n uniongyrchol ar fy llwybr gyrfa, ond yn fwy na hynny, fe agorodd fy llygaid i'r cyfleoedd yn y byd celf a gadael i mi ddod o hyd i rywbeth y gallwn ei wneud am byth.

 

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs chi nawr?

Os nad ydych chi'n siŵr pa lwybr rydych chi am ei ddilyn mewn bywyd, mae'r Brifysgol yn ffordd wych o gadarnhau eich gwir ddiddordebau. Os ydych chi wir yn mwynhau rhywbeth ac yn gweld bod bywyd academaidd yn eich siwtio, gallwch fynd un cam ymhellach a gwneud gradd Meistr. Ar y llaw arall, os nad ydych chi'n mynd ymlaen yn y pen draw i weithio yn y maes rydych chi'n ei astudio yn y Brifysgol? Dydw i wir ddim yn meddwl bod hynny'n broblem. Fe fyddwch chi wedi ennill rhinweddau a sgiliau rhagorol o hyd, fel bod yn ddisgybledig, yn annibynnol, yn hunanfeirniadol ac yn hyderus, a byddwch wedi gwella eich gallu i gyfathrebu ag eraill.

Mae gyrfa yn y Celfyddydau yn rhywbeth nad yw’n cael ei ystyried yn aml fel swydd “draddodiadol”, ond rwy’n meddwl ei bod yn bwysig chwalu’r argraff honno a sgwrsio gyda phobl sydd â gyrfaoedd yn y Celfyddydau. Gofynnwch iddynt yn uniongyrchol am eu profiad a pha fath o gyfleoedd sydd ar gael? Sut gallwch chi gymryd rhan? Oes cyfle i chi wirfoddoli? Felly, fy mhrif gyngor fyddai: manteisiwch ar bob cyfle sy'n codi, o fewn rheswm. Ystyriwch y profiadau hynny ac ewch ati i deilwra profiadau gwaith y dyfodol yn raddol ar ôl i chi adael y Brifysgol.