Megan Thompson
Graddiodd Megan o Aberystwyth yn 2019 gyda BSc mewn Daearyddiaeth Ffisegol, ar ôl treulio ei hail flwyddyn yn astudio ym Mhrifysgol Montana ar gynllun cyfnewid. Mae hi bellach yn gweithio yn y maes gweinyddu a chyllid i Institute of Mine Seismology yn Tasmania, Awstralia.
Beth ydych chi'n ei gofio fwyaf am eich cyfnod yn Aber?
Mae gwên mor enfawr ar fy wyneb pan fydda i'n meddwl yn ôl am fy amser yn Aber! Barbeciws ar lan y môr, mynd allan mewn gwisgoedd dirifedi ar nosweithiau cymdeithasau, ymlwybro i fyny rhiw Penglais, ymlwybro i fyny Adeilad Llandinam, gan obeithio y byddai gan Dr Bill Perkins arlliw o syniad o'r hyn roeddwn i'n ceisio ei ddarlunio yn y modiwl Creigiau a Mwynau, i enwi dim ond ambell atgof!
Beth ydych chi'n ei wneud yn awr o ran gyrfa a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi eich cynorthwyo?
Ar ôl graddio treuliais 3 blynedd yn teithio o amgylch Seland Newydd ac Awstralia cyn setlo yn Hobart, Tasmania. Ers 2018 rydw i wedi bod yn gweithio i'r Institute of Mine Seismology (IMS), sefydliad ymchwil preifat, annibynnol sy'n canolbwyntio ar ddatblygu methodoleg, technolegau a gwasanaethau er mwyn monitro a modelu ymateb creigiau seismig i fwyngloddio. Mae fy swyddogaeth yn yr adran weinyddiaeth a chyllid yn cynnwys bob math o dasgau, o gysylltu gyda'n cwsmeriaid rhyngwladol i drefnu gweithdai a chynadleddau dros y byd. Mae IMS hefyd yn fy nghefnogi ar hyn o bryd i wneud cwrs Cadw Cyfrifon a Chyfrifeg er mwyn gwella fy ngwybodaeth a'm gallu yn fy swydd bresennol. Cefais gynnig y swydd hon ar sail fy ngradd yn llwyr. Roedd gwybodaeth gefndirol (sylfaenol neu beidio) ym maes seismoleg yn ddigon i'm rhoi ar y blaen i'r ymgeiswyr eraill; Gofynnwyd i mi wahaniaethu rhwng tonnau P ac S hyd yn oed yn fy nghyfweliad!
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sy'n astudio eich cwrs chi ar hyn o bryd?
Cyn dim arall, mwynhewch. Mae’r tair blynedd yn gwibio heibio fel fflach. Dewiswch y modiwlau sy'n eich diddori a manteisiwch ar unrhyw dripiau a drefnir. Os cewch y cyfle, ewch i astudio dramor. Roedd treulio fy ail flwyddyn ym Mhrifysgol Montana yn freuddwyd ac yn agoriad llygad i gyrsiau a llwybrau gyrfa na fyddwn i wedi gwybod eu bod yn bodoli fel arall. Peidiwch â phoeni os byddwch chi'n cyrraedd y drydedd flwyddyn yn dal i feddwl 'beth ar y ddaear ydw i am ei wneud nesaf?' oherwydd mae daearyddiaeth yn radd hynod amlddisgyblaethol ac mae llwybrau dirifedi y gallwch eu harchwilio a'u dilyn, ac os oes amheuaeth o hyd, rhowch fag ar eich cefn a theithiwch o gwmpas y byd rydych chi wedi bod yn dysgu amdano yn y gwerslyfrau, a gweld beth a ddaw.