Mary Morgan
Graddiodd Mary Morgan o Aber gyda gradd mewn Daearyddiaeth a Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1967. Ers hynny mae wedi gweithio mewn amrywiol swyddi gan gynnwys gyda Phwyllgor yr Is-Gangellorion a’r Penaethiaid (Prifysgolion y DU bellach) ac yn Gyfarwyddwr Gwybodaeth Gyhoeddus yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?
Un o fy mhrofiadau mwyaf cofiadwy oedd cymryd rhan yn y “Gemau Rhyfel” a gyflwynwyd gan yr Athro (Syr bellach) Laurence Martin, sef Athro Woodrow Wilson mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aber rhwng 1964 a 1967. (Mae’r enw “Gemau Rhyfel” wedi’i ddiweddaru bellach i adlewyrchu diplomyddiaeth fodern ac mae myfyrwyr bellach yn cynnal “Gemau Argyfwng”.)
Aeth tuag ugain o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf, ail a thrydydd o’r adran, ynghyd â’r Athro a phum darlithydd i Neuadd Gregynog am dri diwrnod lle cawsom ein taflu i “sefyllfa ryngwladol”. Roedd ein sefyllfa ni’n ymwneud ag ynys Cyprus a neilltuwyd swydd i bawb yn y gwledydd allweddol: y DU, Ffrainc, Cyprus, UDA, Rwsia, Tsieina ac ati. Roeddwn i yn y tîm Prydeinig (Ysgrifennydd Tramor os cofiaf i’n iawn); roedd Arweinydd yr Wrthblaid yn ein tîm ni hefyd. Erbyn amser swper ar y diwrnod cyntaf, roedd pawb wedi mynd i ysbryd y gêm i’r graddau nad oedd neb am eistedd gyda’u ‘gelynion’ i gael swper! Roedd y darlithwyr yn cadeirio sesiynau trafod a rhwng y sesiynau ychwanegwyd gweithredoedd desgiau newyddion i’r timau oedd yn trafod eu hystyried.
Wrth gwrs roedd yn hwyl enfawr: rwy’n cofio ein tîm ni’n crwydro’r tiroedd hyfryd ar ôl cwblhau ein trafodaethau diplomyddol pan ddaethom ni ar draws grŵp ar fainc; ceision ni ymuno â nhw, ond cawsom ein hanfon i ffwrdd gan mai nhw oedd Cyngor Diogelwch y CU oedd yn cwrdd i geisio cytuno ar ddatrysiad!
Beth ydych chi’n ei wneud nawr yn eich gyrfa, a sut helpodd eich gradd Aberystwyth chi?
Rwyf i wedi ymddeol yn ffurfiol bellach ond treuliais i’r rhan fwyaf o fy ngyrfa yn gweithio gyda’r senedd ac oddi mewn iddi, felly er nad oedd yn amlwg i mi ar y pryd, flynyddoedd yn ddiweddarach sylweddolais cymaint roeddwn i wedi’i ddysgu am gyd-drafod, gweld safbwyntiau o onglau gwahanol a gwybod sut a phryd i gyfaddawdu.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs nawr?
Yn Aber fe ddarllenais i Gyfraith Gyfansoddiadol hefyd a roddodd sylfaen ac a helpodd fi i ddod i arfer ag egwyddorion ac iaith ein democratiaeth seneddol a rheol y gyfraith. Er bod fy mhrofiad yn Aber mor bell yn ôl fel na allaf wir gynnig fawr o gyngor ystyrlon i fyfyriwr cyfredol, yng nghyd-destun 2016/17, mae’n fy mhryderu bod cymaint o anwybodaeth am ein trefniadau cyfansoddiadol, felly byddwn i’n argymell cynnwys hyn yn eich astudiaethau!