Martha Casey
Graddiodd Martha Casey gyda BA mewn Llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Aberystwyth yn 2018.
Beth wyt ti’n ei gofio’n bennaf am dy amser yn Aber?
Y bobl. Fe wnes i gyfarfod rhai o’r bobl fwyaf anhygoel yn Aberystwyth, ac rwy’n gweld y rhan fwyaf ohonyn nhw ac yn siarad â nhw bob diwrnod. Rydych chi’n gwneud ffrindiau oes yn Aber.
Beth wyt ti’n ei wneud nawr o ran gyrfa a sut mae dy radd yn Aberystwyth wedi dy helpu?
Rwy’n Rheolwr Prosiect i gwmni Marchnata Digidol a Dylunio Gwefannau. Pan ymunais â Nu Image, dyma fy swydd gyntaf ar ôl gadael y Brifysgol. Dechreuais fel Cynorthwyydd Gweinyddol, ond symudais ymlaen o fewn dim i rôl Swyddog Marchnata Digidol, diolch i’m sgiliau ysgrifennu creadigol a’m gallu i dalu sylw i dôn llais. Mae’r adran Saesneg yn anhygoel, a dydych chi ddim yn sylweddoli faint y gall rhywun ei ddysgu y tu hwnt i ysgrifennu traethodau a fydd yn eich helpu nes ymlaen yn eich bywyd. Fe wnaeth y seminarau yn sicr fy helpu’n fawr gyda gwaith tîm a chyfathrebu, a diolch i’r pynciau amrywiol y gwnes i eu hastudio, roedd modd i mi ddeall gwahanol arddulliau ysgrifennu a thonau llais. Rwy’n Rheolwr Prosiect bellach, ac mae hynny ar sail fy sgiliau trefnu, sy’n sgiliau sy’n rhaid i chi eu meistroli yn y brifysgol. Rwy’n rheoli prosiectau dylunio ac adeiladu gwefannau, ac yn gwneud gwaith i ddatblygu gwefannau a gwaith dylunio graffeg achlysurol.
Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i fyfyriwr sy’n dechrau ar dy gwrs di nawr?
Fe wnes i astudio Llenyddiaeth Saesneg ac un peth y byddwn i’n ei ddweud yw bod yr adran wastad wrth law i helpu. Os ydych chi’n cael anhawster gyda phwnc neu gyda rhyw fater yn eich bywyd personol, maen nhw yno i wrando bob amser. Ewch i’r seminarau, dydych chi byth yn gwybod beth allech chi ei ddysgu o glywed safbwynt rhywun arall. Peidiwch â bod ofn cyfrannu at seminarau, fe wnewch chi elwa gymaint yn fwy os ydych chi’n barod i rannu syniadau a chymryd rhan mewn trafodaethau. Hefyd, ewch i Neuadd Gregynog, mae’n gymaint o hwyl ac fe gewch chi’r cyfle i gael diod gyda’ch darlithwyr, mae’n sicr yn werth yr ymdrech. Ewch hefyd ar brofiad gwaith gyda The New Welsh Review, maen nhw’n dîm gwych ac mae rhywun yn dysgu cymaint yno.