Lance Batchelor
Graddiodd Lance Batchelor o Brifysgol Aberystwyth ym 1985 gyda BSc (Econ) mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Astudiaethau Strategol. Mae bellach yn Gadeirydd sawl cwmni ecwiti preifat ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol Arweiniol ar fwrdd y Llynges Frenhinol.
Beth ydych chin ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?
Mae gen i lu o atgofion o'm tair blynedd yn Aber: darlithoedd a seminarau ar wahanol bynciau a oedd yn ysgogi'r meddwl; ffrindiau rhadlon a oedd yn fy mywiocau ac yn gwneud imi chwerthin; nosweithiau difyr yn ymweld â thafarndai a chlybiau niferus y dref; nosweithiau tywyll a gwlyb ganol gaeaf yn eistedd mewn tafarn wledig yng nghwmni ffrindiau; cynrychioli Prifysgol Cymru yn y gamp karate; marchogaeth yn y mynyddoedd prydferth yn yr eira....a llawer mwy...
Beth ydych chin ei wneud nawr o ran gyrfa, a sut helpodd eich gradd o Aberystwyth?
Wedi imi adael Aberystwyth, treuliais chwe blynedd yn y Llynges Frenhinol yn gwasanaethu ar longau tanfor. Ar ôl treulio sawl blwyddyn ar y môr, priodais a phenderfynais gychwyn ar yrfa newydd ym maes marchnata. Enillais gymhwyster MBA yn Ysgol Fusnes Harvard ac yna treuliais 15 mlynedd ym maes marchnata gyda Procter & Gamble, Amazon.com yn Seattle, Vodafone UK a Tesco.
Yna, deuthum yn Brif Swyddog Gweithredol ac, yn fy nhro, bûm yn rheoli Tesco Mobile, Domino's Pizza ac, yn olaf, Saga Plc.
Sut mae Aber wedi fy helpu i:
1. Yn ystod fy nhair blynedd yn Aber, dysgais sut i fod yn hunangynhaliol ac i ofalu amdana’ i fy hun, er ei fod yn lle cefnogol iawn.
2. Dysgais ddysgu. Yn Aber, roedd disgwyl imi fwrw 'mlaen â'm gwaith ac i ofyn am help pan oedd ei angen arnaf. Roedd hyn yn dra gwahanol i'r ffordd y cefais fy nysgu yn yr ysgol, lle byddai popeth yn cael ei roi inni ar blât.
3. Yn Aber, dysgais sut i yrru 'mlaen ag amrywiaeth eang o bobl, o wahanol gefndiroedd cymdeithasol, gwahanol wledydd a phersonoliaethau gwahanol. Hwyrach mai honno oedd y wers fwyaf gwerthfawr.
Pa gyngor fyddech chin ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs chi nawr?
1. Bod gwaith caled yn talu ar ei ganfed. Peidiwch â bod yn ddifater neu'n ddiog yn ystod eich cyfnod yn Aber. Ymrowch yn llawn i'ch bywyd yn y Brifysgol. Er bod y rhestr hon yn ymddangos yn hirfaith, un peth yr wyf yn ei ddifaru yw na wnes i ragor!
2. Er bod gwleidyddiaeth ryngwladol yn esblygu drwy'r amser (e.e. treuliais lawer o'm hamser yn astudio'r Undeb Sofietaidd, sydd bellach wedi hen ddiflannu), cofiwch y bydd y sgiliau a'r arferion y byddwch yn eu dysgu yn berthnasol drwy gydol eich bywyd.
3. Mwynhewch! Dim ond unwaith y cewch chi'r profiad o fod mewn prifysgol, ac mae Aber yn lle gwych i gael y profiad hwnnw.