Kerry Diamond
Graddiodd Kerry o Aber yn 1979 gan ennill gradd BSc (Econ) mewn Economeg a Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich cyfnod yn Aber?
Cyngor a gefais gan fy nhad oedd peidio â gweithio’n rhy galed gan na fyddwn i byth yn cael cyfle i archwilio a phrofi cymaint eto yn fy mywyd! Rydw i’n gydwybodol wrth natur ond fe wnes i gymryd ei gyngor diolch byth. Fe wnes i gyfarfod fy ngŵr (a oedd yn ei ail flwyddyn) yn fy nhymor cyntaf ac yn y diwedd newidies gwrs o Economeg a Chyfrifeg i Economeg a Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ac roedd hynny’n golygu y gallem astudio gyda’n gilydd a thrafod rhai o’r materion gwleidyddol rhyngwladol mwy heriol – ac rydyn ni’n dal i wneud hynny heddiw. Roeddwn i yn Neuadd Penbryn yn fy mlwyddyn gyntaf ac yn ddigon ffodus i gael ystafell oedd yn wynebu’r blaen – roedd y machlud yn anhygoel. Gan nad oedd gennym gar na llawer o arian roedden ni’n cerdded i bobman a thrît ar nos Sadwrn oedd rhannu sglodion a chacen bysgod ar y Prom. Cafodd fy ngŵr ei siwt wlyb gyntaf yn anrheg gennyf yn fuan ar ôl i ni gwrdd ac mae gen i gof byw ohono’n newid yn ystafell ffrynt fy Hen Fodryb yn Stryd Cambria ac yna’n cerdded trwy’r dref i’r traeth i gwrdd â’r lleill, g Modryb Katie yn rhedeg ar ei ôl gyda phecyn o fisgedi iddo eu bwyta ar ôl nofio.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr o ran gyrfa, a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi helpu?
Er ’mod i wedi gollwng cyfrifeg yn fy mlwyddyn gyntaf, mi wnes i gymhwyso yn y pen draw fel cyfrifydd cyn gynted ag y gadewais y Brifysgol, ar ôl dadansoddi’r farchnad swyddi a sylweddoli bod prinder affwysol o gyfrifwyr. Dechreuais fel hyfforddai yng Ngogledd Cymru a symudais i Swydd Henffordd yn 1996. Symudais i gwmni modurol o’r Almaen yn y Cymoedd yn 2000 ac yn fuan wedyn ymunais â Bwrdd Cynghori Buddsoddi a Datblygu Cymru fel Aelod o’r Panel ac rwyf bellach yn Gadeirydd. Fe wnes i gymudo i Frwsel am flwyddyn ar aseiniad rhyngwladol i’r cwmni ac rydw i bellach yn Brif Swyddog Ariannol grŵp o gwmnïau yn y sector Ymchwil a Datblygu sy’n gweithio ar geir trydan, gyrru ymreolaethol a chwaraeon moduro sydd wedi bod yn eithaf cyffrous. Rwyf ar hyn o bryd yn Is-gadeirydd Partneriaeth Menter Leol Stoke a Swydd Stafford yn fy amser hamdden ac yn cymryd rhan ar nifer o Fyrddau a gweithgorau sy’n ymwneud â chymorth gwladwriaethol ac yn ddiweddar paratoi at Brexit. Mae pwnc fy ngradd yn aml wedi agor trafodaethau defnyddiol dros y blynyddoedd ac wedi fy helpu i fod yn fwy ymwybodol o anawsterau diwylliannol a phwysigrwydd hanes yn ystod fy nghyfnod yng Ngwlad Belg ac ar deithiau busnes ar draws Dwyrain Ewrop a’r Dwyrain Pell.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs chi nawr?
Byddwn i’n cynghori unrhyw un sy’n astudio Economeg neu Wleidyddiaeth Ryngwladol nawr i ddarllen yn eang o gwmpas y pwnc i gael cyd-destun ac i fod yn barod i ymchwilio yn annibynnol ac yn drylwyr, ac i herio popeth. Rydyn ni mewn oes o wyrdroi a rhagfarnau felly mae’n bwysig gweld dwy ochr y ddadl a mynd ati’n feirniadol i ddadansoddi’r hyn sy’n cael ei gyflwyno.