Joe Goldstone
Graddiodd Joe o Aber yn 2003 gyda BA mewn Almaeneg a Rheoli Busnes. Mae bellach yn gweithio fel Cyfarwyddwr Marchnata i gwmni rhyngwladol.
Beth yw eich atgofion pennaf am eich cyfnod yn Aber?
Cerdded i fyny Rhiw Penglais - peth arbennig o boenus adeg darlith gynnar wedi noson hwyr ym mis Chwefror; y bobl - ffrindiau ac academyddion fel ei gilydd; y teimlad o ddod allan o'r bryniau ac i lawr i ddyffryn afon Ystwyth ar yr A44 wedi'r daith ddiddiwedd - mae'r ymdeimlad o fod yn annibynnol ac ar wahân yn fythgofiadwy.
Beth ydych chi'n ei wneud ar hyn o bryd yn eich gyrfa a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi bod o gymorth ichi?
Rwy'n gweithio yn Charlotte, Gogledd Carolina, i gwmni byd-eang sy’n gwneud nwyddau gofal iechyd, yn yr adran farchnata ar gyfer yr Unol Daleithiau. Ymunais â'r cwmni yn Efrog Newydd yn 2006 a rhwng 2013 a 2017 bûm yn gweithio yn ei bencadlys gweithgynhyrchu yn yr Almaen. Mae manteision academaidd fy ngradd mewn Almaeneg a Busnes yn amlwg, heb sôn am y profiad a gefais wrth weithio yn yr Almaen yn ystod fy mlwyddyn dramor. Ond yr hyn a wnaeth y gwahaniaeth mawr oedd agwedd ddynol fy ngradd. Mae gwybod y gallwch ddysgu rhywbeth gan bob person mewn darlithfa neu ystafell ddosbarth - nid dim ond gan y darlithydd neu’r tiwtor, ond gan gyd-fyfyrwyr a chanddynt wahanol safbwyntiau a chefndiroedd - wedi bod o fudd enfawr yn fy ngyrfa. Mae Dr Wini Davies yn haeddu cydnabyddiaeth arbennig am hynny.
Pa gyngor roddech chi i fyfyrwyr sy'n astudio eich cwrs chi ar hyn o bryd?
Dau beth - gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwrando’n fwy aml nag yr ydych yn siarad. Gwrando ar bawb. Gall pob un ohonom fod mor awyddus i gyfleu ein barn neu ein neges ein hunain fel ein bod yn colli allan ar lawer iawn y gallwn ei ddysgu gan bobl eraill. A gwnewch bopeth o fewn eich gallu i wneud y gorau o'ch blwyddyn dramor - mae fy mhrofiadau, yn broffesiynol, yn academaidd ac yn bersonol, wedi cyfrannu’n aruthrol at fy sefyllfa heddiw.