Joe Doublet
Cwblhaodd Dr Joe Doublet ddoethuriaeth mewn Asesiad Effaith Amgylcheddol yn Aber yn 2002.
Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich cyfnod yn Aber?
Bu Aber yn brofiad rhagorol i mi yn academaidd ac yn ddeallusol. Daeth â mi i gyswllt â nifer o bobl o wahanol gefndiroedd a syniadau. Dwi’n cofio’r llyfrgell gyda’i system TG newydd, cyfleusterau chwilio, y ffaith bod ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24x7 a oedd yn eich galluogi i weithio pa bynnag amser yr hoffech, y gwyrddni ar ac o gwmpas y campws, y teithiau cerdded hir o gwmpas y lle. Dwi’n cofio ymweld â hen adeilad y Brifysgol ar lan y môr, y Llyfrgell Genedlaethol nodedig gyda’i garped coch hyfryd, a mwynhau’r daith gerdded hanner awr i gampws yr adeilad amaeth. Yn olaf, mae’n rhaid cofio am y gwasanaeth rhagorol a gefais gan yr Uned EIA, a Dr Alan Bond yn arbennig, yn ystod y cyfnod fues i’n astudio yn Aber.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr o ran gyrfa a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi helpu?
Ar hyn o bryd dw i’n Bennaeth yr Adran Gwyddor yr Amgylchedd a hefyd yn Gydlynydd Maes y Gwyddorau yn Gian Frangisk Abela Junior College lle rydw i hefyd yn dysgu Gwyddor yr Amgylchedd i fyfyrwyr sy’n mynychu’r Coleg. Dwi weithiau yn darlithio ym Mhrifysgol Malta hefyd. Fel arall dwi’n gwneud gwaith ymgynghori amgylcheddol hunan-gyflogedig gan wneud asesiadau effaith amgylcheddol (EIA) a hefyd monitro gwaith ac adroddiadau astudiaeth sylfaenol.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr sy’n dilyn eich cwrs chi nawr?
Os tybiwch y byddai cwrs o’r fath yn eich rhoi mewn gwell sefyllfa yn eich gwlad ac yn agor nifer o gyfleoedd, yna ewch amdani, gweithiwch yn galed, mwynhewch eich amser yn y Brifysgol ac ewch o gwmpas y cyffiniau pan allwch – mae Cymru yn lle rhagorol i fynd iddo. Hyn yn gyngor i bob myfyriwr sy’n ystyried astudio yn Aber.