Jerry Evans
Graddiodd Jerry o Aber yn 1984 gyda BSc mewn Daearyddiaeth. Ar ôl gweithio fel dadansoddwr i gyfres o fanciau buddsoddi yn ardal gwasanaethau ariannol dinas Llundain, bu’n ymwneud â chyllid/cynghori busnesau newydd, a hefyd yn fwyaf diweddar bu’n dysgu busnes mewn coleg yn Llundain.
Beth yw eich atgofion pennaf am eich cyfnod yn Aber?
Roedd Aberystwyth yn lle gwych i ddatblygu'n gymdeithasol ac yn academaidd. Byddech yn disgwyl i brifysgol ragorol fel Aber ddarparu addysg o'r radd flaenaf, ond mae hefyd yn lle da i ddatblygu eich sgiliau cymdeithasol, a fydd yr un mor bwysig wrth ddatblygu gyrfa yn y 'byd y tu allan'.
Beth ydych chi'n ei wneud ar hyn o bryd yn eich gyrfa a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi bod o gymorth ichi?
Treuliais 17 mlynedd yn gweithio fel dadansoddwr i gyfres o fanciau buddsoddi yn ardal gwasanaethau ariannol dinas Llundain. Yna bum yn ymwneud â chyllid/cynghori busnesau newydd, gan gynnwys busnes fy hunan; ac yn fwyaf diweddar, dechreuais ddysgu busnes mewn coleg yn Llundain. Bu Aberystwyth o gymorth i fi mewn dwy brif ffordd; yn gyntaf, roedd y cyrsiau gradd yn gyfredol a phenodol ac yn ennyn parch ac roeddent yn fuddiol i mi wrth ymgeisio am swyddi. Yn ail, y ffrindiau agos a wnes i, a phob un wedi para hyd heddiw, gan greu atgof parhaol o'r amser da a gawsom ni i gyd yn Aber.
Pa gyngor roddech chi i fyfyrwyr sy'n astudio eich cwrs chi ar hyn o bryd?
Oherwydd bod Daearyddiaeth mor amrywiol, ar ôl mwynhau’r dewis eang o bynciau blwyddyn gyntaf, gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n canolbwyntio’n rhy gul, yn rhy gyflym oherwydd er mwyn llwyddo yn y byd sydd ohoni mae medru cysylltu ar draws disgyblaethau yn gaffaeliad i ddaearyddwyr ac yn rhoi mantais dros y rhan fwyaf o bobl eraill. Cofiwch fod gradd mewn daearyddiaeth yn cael ei hadnabod fel gradd ddefnyddiol mewn llawer o amgylcheddau gwaith gwahanol, felly pan fyddwch yn astudio yn y brifysgol, gwnewch yr hyn rydych chi'n ei fwynhau, gan wybod y bydd yn cael ei barchu yn y gweithle y tu hwnt i’r brifysgol.