Iona Bayley
Graddiodd Iona o Aber â gradd mewn Daearyddiaeth yn 1995.
Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?
Mae’n ystrydeb dwi’n gwybod, ond anghofia i byth mo Rhiw Penglais. Heblaw am fy nghadw i’n heini, roedd golygfa anhygoel o’r bont droed ar frig y rhiw, lle gallwch weld y dref a’r môr tu hwnt. Roedd amgylchedd arfordir Cymru yn ei wneud yn lle hyfryd i fyw ac astudio ynddo. Mae gen i atgofion melys o ddringo Pen Dinas a’r Greiglais ac ar hyd llwybr yr arfordir i Glarach ar bob adeg o’r dydd a’r nos! Fy amser yn Aberystwyth oedd y cyfle cyntaf imi ei gael erioed i gymdeithasu â llawer o bobl o bob cwr o’r byd, o wahanol ddiwylliannau ac yn siarad gwahanol ieithoedd. Hwn oedd y tro cyntaf imi brofi amgylchedd dwyieithog, a chefais lawer o hwyl yn ceisio ynganu llawer o eiriau Cymraeg newydd a hir. Yn ogystal â hyn, mi wnes i hefyd gwrdd â’m gwr yn ystod fy nhymor cyntaf yn Aberystwyth.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr o ran gyrfa, a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi helpu?
O ran gyrfa, rwyf wedi bod yn ymgymryd ag amryw rolau cynllunio ar draws gwahanol sectorau o’r farchnad. Ond sut mae hyn yn berthnasol i fy ngradd BSc (Anrhydedd) mewn Daearyddiaeth? Roedd fy ngradd mewn gwirionedd yn springfwrdd a ddarparodd ystod eang o sgiliau defnyddiol i mi; ac yn bwysicach, sgiliau addasadwy sydd wedi profi i fod yn amhrisiadwy mewn ystod o swyddi proffesiynol ac wrth gyflawni amcanion bywyd eraill. Mae’r sgiliau dadansoddol a threfnyddol cadarn a ddatblygais wedi bod yn hanfodol yn fy mywyd gwaith.Does dim amheuaeth na wnaeth fy ngradd o Aberystwyth danio fy nychymyg, a hynny y tu hwnt i ennill bywoliaeth yn unig, gan ddarparu’r cymhelliant i fynd i brofi mwy o’r blaned!
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr sy’n gwneud eich cwrs chi nawr?
Dilynwch eich diddordebau! Fe fyddwch yn fwy llwyddiannus a brwdfrydig yn eich bywyd os yw’r hyn rydych yn ei wneud yn eich cyffroi. Mae’r byd yn newid yn gyflym ac yn llawn heriau a chyfleoedd na wnaethoch efallai eu rhagweld. Meddyliwch am eich cryfderau a’r sgiliau yr hoffech eu datblygu ymhellach. Mae bywyd prifysgol yn cynnig cymaint o gyfleoedd yn ogystal â’r rhai academaidd. Dim ond y dechrau yw’r Brifysgol - dydych chi byth yn stopio dysgu!