Graham Shimell
Astudiodd Graham Gyfrifeg a Chyllid yn Aberystwyth gan raddio yn 1999. Yn ystod ei gyfnod yn y Brifysgol roedd yn weithgar iawn mewn nifer o glybiau a chymdeithasau. Fel aelod o dîm Ultimate Frisbee Aber, bu’n cystadlu mewn cystadleuaeth o amgylch Ewrop, gan gynnwys Rimini yn yr Eidal. Ers gadael y Brifysgol mae Graham wedi defnyddio ei wybodaeth cyfrifeg yn ei swydd yn Arolygydd Cyfrifeg, yn Reolwr Swyddfa mewn cwmni o gyfreithwyr, ac yn Gyfarwyddwr mewn cwmni dylunio i’r we. Yn fwyaf diweddar ffurfiodd gwmni gwerthu nwyddau i’r cartref a rhoddion. Yng nghanol hyn i gyd, enillodd ail radd anrhydedd mewn Cerddoriaeth.
Beth yw eich prif atgofion am eich amser yn Aber?
Fe wnes i wir fwynhau fy amser yn Aberystwyth. Mae gen i atgofion melys am fyw yn y dref fechan. Roedd yn amgylchedd diogel â theimlad o ysbryd cymunedol. Gwnes nifer o ffrindiau da a mwynhau crwydro’r arfordir godidog.
Roedd y staff gweinyddol a’r darlithwyr yn barod i helpu bob amser, a’r cyfleusterau o safon uchel iawn. A finnau yn ddarllenwr brwd, roedd llyfrgell y Brifysgol yn adnodd defnyddiol iawn, â’i chasgliad mawr o ddeunydd ar ystod eang o bynciau.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr o ran gyrfa a sut mae eich Gradd Aberystwyth wedi helpu?
Ffurfiais fy nghwmni fy hunan tua tair blynedd yn ôl. Enw’r cwmni yw Gifts with heart Ltd ac mae’n gwerthu rhoddion Cymraeg a nwyddau i’r tŷ yn uniongyrchol i’r prynwr, yn bennaf drwy’r wefan www.giftswithheart.co.uk. Mae’r cwmni’n dal i dyfu bob blwyddyn, ac mae wedi’i sefydlu ei hun yn gyflym fel un o’r gwerthwyr ar-lein mwyaf blaenllaw yn y maes.
Mae fy nghymhwyster Cyfrifeg a Cyllid wedi bod yn ddefnyddiol iawn wrth ddatblygu fy musnes. Rwyf wedi gallu rheoli’r cyllid, cadw llygad ar yr arian sy’n dod i mewn ac allan, heb sôn am y ffaith mod i’n arbed talu ffioedd cyfrifydd! Mae fy ngradd wedi meithrin fy ngallu i gadw llygad barcud ar fanylion wrth archwilio ffigurau. Rhoddodd olwg cyffredinol o’r ffordd mae datganiadau rheoli ac ariannol eu dadansoddi drwy ddefnyddio taenlenni. Alla i ddim pwysleisio gormod pa mor ddefnyddiol mae hyn wedi bod. Llwyddais i ennill cymwysterau AAT i ategu’r wybodaeth yma.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr sy’n dilyn eich cwrs ar hyn o bryd?
Y cyngor cyntaf fyddai i gofrestru gydag ychydig o glybiau neu gymdeithasau yn ystod penwythnos y glas-fyfyrwyr. Mae’n gallu bod yn eithaf brawychus pan fyddwch yn cyrraedd am y tro cyntaf heb adnabod neb. Fel arfer mae clwb ar gyfer pob math o hamdden neu chwaraeon y gallwch ddychmygu, felly dwi’n siŵr bod yma un sy’n gweddu i’ch diddordebau.
Yn ail, teimlais bod y drydedd flwyddyn yn mynd tipyn yn ddyfnach i’r pwnc ac ychydig yn fwy heriol.
Peidiwch â phoeni, ond fy nghyngor yw byddwch yn barod.