Geoff Knott
Graddiodd yn Graddiodd Geoff o Aberystwyth yn 2013 gyda BSc mewn Astroffiseg. Cwblhaodd leoliad gwaith fel Cynorthwyydd Ymchwil am 8 wythnos ar ddiwedd ei drydedd flwyddyn, yn creu graffîn yn yr Adran Ffiseg.
Ar ôl cael ei PhD mewn Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Surrey yn 2018, ar hyn o bryd mae’n cwblhau Cymrodoriaeth Ymchwil mewn Dylunio Strwythurau Llongau Gofod. Mae hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu ei fusnes newydd, HOP®, sy’n defnyddio pryfaid bwytadwy fel ffordd gynaliadwy o gael protein mewn maeth chwaraeon ac mewn bwydydd a diodydd yn gyffredinol.
Beth ydych chi’n ei gofio’n bennaf am eich amser yn Aber?
Gwneud ffrindiau am byth. Cawsom sgwrs yn ddiweddar yn trafod dechrau ein graddau ddegawd yn ôl, a chyfarfod â’n gilydd am y tro cyntaf mewn noson gwin a chaws yn yr adran Ffiseg!
Dysgu am y ffordd mae’r bydysawd yn gweithio - mae’n brofiad sy’n cyfoethogi eich cymeriad, a gan amlaf, mae’r rhan fwyaf o bobl yn awyddus i ddysgu am gysawd yr haul ac am y gofod
Pa mor gryf oedd fy nghoesau ar ôl dringo rhiw Penglais
Teithiau cerdded gwych a beicio mynydd drwy’r coedwigoedd y tu ôl i PJM; gwylio’r machlud ar y traeth wrth fwynhau barbeciw; traeth bendigedig Ynyslas; a mynd i ddarlithoedd mewn fflip-fflops a siorts (a hithau’n aeaf).
A does gen i ddim syniad sut y gwnaethom lwyddo i gynnwys 13.5 awr o hyfforddiant badminton mewn wythnos
Beth ydych chi’n ei wneud nawr o ran gyrfa, a sut mae eich gradd o Brifysgol Aberystwyth wedi helpu hynny?
Rwy’n cwblhau fy mhrosiect ôl-ddoethurol mewn dylunio strwythurau llongau gofod, ac yn rheoli nifer o fentrau newydd, yn bennaf HOP®.
Mae fy ngradd o Aber wedi rhoi sylfaen gadarn yn y pynciau STEM i mi, a ffordd o feddwl beirniadol sydd wedi bod yn hanfodol ym mhob penderfyniad rwyf wedi’i wneud hyd yn hyn. Ni fyddwn wedi gallu rhagweld y llwybr rwyf wedi’i ddilyn, ac fel y rhan fwyaf o bobl, rwy’n credu, mae’n rhaid i chi ymaddasu i’r cyfleoedd sy’n codi ar y pryd, a gwneud yn fawr ohonynt. Rwy’n grediniol bod fy ngradd wedi rhoi’r sylfaen gadarn honno i mi
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr sy’n astudio eich cwrs chi heddiw?
Byddwch yn uchelgeisiol a chadwch feddwl agored o ran sut y gallai’ch gyrfa fynd yn y dyfodol.
Rydych yn meithrin cymaint o sgiliau sy’n gysylltiedig â’r pynciau STEM fydd yn ddefnyddiol iawn ar gyfer busnes yn gyffredinol. Peidiwch byth â’ch tanbrisio’ch hunan!