Dr Margarita Zachariou
Mae gan Margarita radd BSc mewn Mathemateg Gymhwysol a Doethuriaeth ym maes Niwrowyddoniaeth Fathemategol. Hi yw enillydd Gwobr Alumni 2024 Study UK y Cyngor Prydeinig mewn Gwyddoniaeth a Chynaliadwyedd yng Nghyprus.
Yn 2002, yn rhan o’i chwrs gradd israddedig, treuliodd Margarita gyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gynllun cyfnewid Erasmus, ac fe gafodd ei hysbrydoli i barhau i astudio ym Mhrydain. Aeth ymlaen wedyn i ennill PhD mewn Niwrowyddoniaeth Fathemategol ym Mhrifysgol Nottingham.
Bellach, mae Margarita yn gweithio yn Sefydliad Niwroleg a Geneteg Cyprus, yn cymhwyso Mathemateg a Gwybodeg mewn iechyd a bioleg, gan ganolbwyntio ar yr ymennydd.
Mae hi’n arbennig o frwd i barhau i ddatblygu'r gwerthoedd a sefydlwyd ynddi ym Mhrydain, sef harneisio gwyddoniaeth i hybu newid cymdeithasol, ac mae’n parhau i ymdrechu i wneud gwyddoniaeth yn hygyrch ac yn fuddiol i gymdeithas.
Penodwyd Margarita i un o bwyllgorau rheoli’r cynllun COST - Mathematics in Industry, ac mae hi wedi cyd-arwain amryw weithgareddau Trosglwyddo Gwybodaeth, yn cynnwys dau Grŵp Astudio Ewropeaidd gyda Diwydiant, y cyntaf i’w cynnal yng Nghyprus (2016, 2018), a chafodd gymorth yn lleol gan lawer o randdeiliaid, yn cynnwys Uwch Gomisiwn Prydain. Mae’r grwpiau hyn yn dwyn academyddion STEM a diwydianwyr ynghyd i chwilio am atebion i heriau diwydiannol a heriau cymdeithasol.
Roedd yr heriau'n cynnwys y rhwystrau mae menywod yn eu hwynebu yn y byd academaidd yng Nghyprus, lle mae Margarita yn hyrwyddo amrywioldeb, cydraddoldeb a chynhwysiant yn y byd academaidd. Ac yn symud o ganfod beth yw’r rhwystrau i chwilio am ddulliau o’u datrys.
A hithau’n gyn-fyfyriwr o Brifysgol yn y Deyrnas Unedig, ymunodd Margarita â chwrs y Cyngor Prydeinig, "Stronger Together: Leadership for Gender Equality". Rhoddodd y cwrs yr ysbrydoliaeth a'r cymhelliant iddi sefydlu Rhwydwaith Menywod yn y Gwyddorau Mathemategol yng Nghyprus sydd â gweledigaeth ar gyfer cymuned wyddonol fwy cynhwysol. Ar ôl ennill grant gweithredu cymdeithasol y Cyngor, cynhaliodd y Rhwydwaith arddangosfa am y tro cyntaf yng Nghyprus - "Women of Mathematics from all over the world; A gallery of Portraits". Mewn 4 mis, gwelwyd yr arddangosfa, a oedd yn cyflwyno straeon 11 o fenywod sy’n academyddion lleol, gan tua 5500 o bobl mewn 7 sefydliad academaidd gwahanol.