Douglas Eisinger
Graddiodd Doug o Aber yn 2005 gyda PhD mewn Dadansoddi Polisi Amgylcheddol. Mae’n Uwch Is-Lywydd gyda Sonoma Technology, cwmni ymgynghori ansawdd aer a newid yn yr hinsawdd yng Nghaliffornia (https://www.sonomatech.com/), ac yn Athro Cyswllt ar Raglen Meistr Prifysgol Washington mewn Cludiant Cynaliadwy (https://www.sustainable-transportation.uw.edu/academic-experience/faculty).
Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?
Cefais gefnogaeth wych ac anogaeth gan fy nghynghorwr, yr Athro Peter Wathern, oedd yn fentor ac yn gydweithiwr rhagorol ac yn gogydd a storïwr medrus. Fel bonws, roedd Peter a’i wraig Julie yn gyd-gerddwyr hynod o ddymunol wrth i ni grwydro’r anialwch yng Nghymru a gogledd Califfornia.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr yn eich gyrfa, a sut helpodd eich gradd Aberystwyth chi?
Mae gennyf yrfa amgylcheddol hynod ddifyr a chynhyrchiol fel rheolwr i Asiantaeth Ddiogelu’r UD, ymgynghorydd i ddiwydiant ac asiantaethau’r llywodraeth, ac athro yn y byd academaidd. Mae fy ngradd o Aberystwyth wedi bod yn hanfodol yn fy llwyddiant. Galluogodd fi i ddatblygu swyddi addysgu tymor hir ym Mhrifysgol Hawaii a Phrifysgol Washington; hwylusodd fi i arwain nifer o raglenni ymchwil dros y blynyddoedd, a galluogodd fi i ymgymryd â swyddi arweiniol yn fy maes. Er enghraifft, dan Academïau Gwyddorau, Peirianneg a Meddygaeth Cenedlaethol UDA, fi oedd cadeirydd Pwyllgor Ansawdd Aer a Lliniaru Nwyon Tŷ Gwydr y Bwrdd Ymchwil Cludiant, penodiad a hwyluswyd yn sicr gan fy noethuriaeth o Aber. Erbyn heddiw rwy’n canolbwyntio fwyfwy ar addysgu a mentora’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr, ac ar gefnogi ymdrechion i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, yn enwedig drwy drydaneiddio’r fflyd cerbydau. Er enghraifft yn 2023, gyda chydweithwyr, cyhoeddais astudiaeth yn cofnodi sut y gall defnyddio cerbydau trydan fynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn amlygiad i lygredd aer (https://www.nature.com/articles/s43247-023-00799-1).
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs nawr?
Wrth edrych yn ôl ar fy mhrofiadau addysgol a phroffesiynol, mae dau beth yn dod i’r amlwg. Yn gyntaf: crëwch berthnasoedd hirhoedlog. Cymerwch amser i ddod i adnabod eich cyd-fyfyrwyr, eich athrawon, ac eraill yn eich cymuned academaidd. Hefyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn meithrin y perthnasoedd hynny dros amser. Yn y pen draw mae bywyd yn ymwneud â’n cysylltiadau â phobl eraill, pwynt a ddaeth yn glir i bawb yn ddramatig gyda’r ynysu a deimlwyd ledled y byd wrth i ni frwydro drwy’r pandemig byd-eang. Yn ail: dilynwch eich diddordebau. Edrychwch ymhell ymlaen - degawdau, nid misoedd - gan sylweddoli drwy gydol uchafbwyntiau ac isafbwyntiau bywyd, os gwnewch chi weithio ar bynciau sy’n golygu llawer i chi’n bersonol, y bydd y diddordebau hynny’n eich cynnal dros amser, gan wneud eich gyrfa a’ch bywyd yn fwy boddhaus. Wrth i chi ennill profiad, mae’n gwbl resymol disgwyl i’ch diddordebau newid dros amser. Rydym ni’n esblygu’n barhaus fel pobl, wedi’r cyfan. Ond cofiwch, os treuliwch amser ar bynciau rydych chi’n eu hoffi, gyda phobl rydych chi’n eu hoffi a’u parchu, bydd eich taith yn fwy boddhaus ac yn fwy o hwyl.