Didi Gradinarska

Graddiodd Didi o Aberystwyth yn 2016 gyda BSC Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Datblygu Gwe (Cyfrifiadura Rhyngrwyd a Gweinyddu Systemau yn flaenorol). Mae bellach yn gweithio i GE HealthCare.

Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?

Mae Aberystwyth yn brofiad rwyf i’n ei gofio gydag anwyldeb, a dyna beth a’m gwnaeth i yr hyn ydw i heddiw. Roedd yn risg enfawr i mi symud o fy ngwlad enedigol, mentro i rywle anhysbys i gyflawni’r nod o gael addysg a fyddai’n fy herio ac yn gadael i fi ddysgu mwy nag yr oeddwn i wedi’i ddisgwyl erioed. Rwy’n ddiolchgar hyd heddiw i’r holl bobl yn Aberystwyth a helpodd fi i oresgyn y sioc ddiwylliannol, dysgu’r iaith i lefel frodorol, rhannu eu bwyd pan oedd arian yn dynn, hyd yn oed y gweithiwr yn Lidl a gymerodd amser i esbonio gwerth pob darn o arian yn fy llaw i fi ar fy niwrnod cyntaf. Roedd yn anhygoel cwrdd â phobl o bedwar ban byd a bod yn agored i gynifer o ddiwylliannau a dod o hyd i gyfeillgarwch hirhoedlog. Gwnaeth y lle hwn i mi gredu go iawn fy mod yn perthyn, ac y gallaf gyflawni’r hyn rwy’n gosod fy meddwl arno.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr yn eich gyrfa, a sut helpodd eich gradd Aberystwyth chi?

Ar hyn o bryd rwy’n Gynghorydd Risg gyda GE HealthCare lle dechreuais fy ngyrfa rai dyddiau ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth. Paratôdd fy ngradd fi ar gyfer y byd go iawn gan roi’r holl sgiliau oedd eu hangen arnaf i fod yn weithiwr TG proffesiynol cyflawn. Rwy’n treulio fy amser yn y cwmni’n tyfu, teithio’r byd a chyflawni prosiectau heriol ym mhob maes TG. Yr elfen yn fy ngradd a wnaeth fwyaf i newid fy mywyd oedd y flwyddyn integredig mewn diwydiant. Rwy’n argymell cymryd y flwyddyn ychwanegol hon, nid yn unig i gael y profiad, ond hefyd i’r rheini sy’n ddigon lwcus, gallwch ddod allan o’ch interniaeth wedi sicrhau swydd, ac roedd hynny’n golygu bod modd i mi ganolbwyntio ar fy astudiaethau yn ystod fy mlwyddyn olaf a cherdded i mewn i swydd yn yr wythnos y graddiais. Diolch enfawr i’r holl ddarlithwyr a staff a wnaeth i hyn deimlo fel cartref oddi cartref. Roedden nhw yna i fy arwain a thyfu fy sgiliau, felly roedd hyn i gyd yn bosibl.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs nawr?

Dilynwch eich angerdd a pheidiwch â gadael i ofni pethau anhysbys gymylu eich barn. Os ydych chi’n gosod eich meddwl ar rywbeth ac yn gwneud ymdrech, byddwch yn gallu ei gyflawni. Mae pobl anhygoel o’ch cwmpas fydd yn dysgu popeth i chi sydd angen i chi ei wybod er mwyn llwyddo felly gadewch iddyn nhw wneud hynny a byddwch yn agored iddo.