Coleen Miller
Enillodd Coleen radd mewn Bioleg, ar l treulio blwyddyn gyfnewid yn Aber rhwng 1988 a 1989. Ar l PhD yn Leeds, mae Coleen bellach yn awdur technegol.
Beth rydych chin ei gofion bennaf am eich cyfnod yn Aber?
Nid anghofiaf fyth yr olygfa om hystafell a wynebair mr yn Rendel, cael fy nghofleidio gan y goleuni ar aer ar ewyn wrth imi gerdded (neu redeg) ar lan y mr, machlud yr haul o Graig Glais, nosweithiau a phenwythnosau di-ri yng nghwmni ffrindiau o blith Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth - nifer ohonynt dal yn ffrindiau da heddiw.
Beth rydych chin ei wneud nawr o ran eich gyrfa a sut gwnaeth eich Gradd o Aberystwyth eich helpu?
Ar l gadael Aberystwyth, gorffennais fy ngradd BSc Bioleg yn fy mhrifysgol gartref yn America cyn dychwelyd ir DU i wneud PhD mewn Geneteg ym Mhrifysgol Leeds. Gweithiais mewn nifer o labordai ymchwil yn y DU ac UDA, cyn dechrau swydd newydd fel awdur technegol ar gyfer corfforaeth biotechnoleg fyd-eang, a dyna yw fy ngyrfa ers deng mlynedd. Mi wnaeth fy nghyfnod yn Aberystwyth fy helpu mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, fe wnaeth yr hyfforddwyr fy herio i feddwl yn feirniadol am y broses ymchwil a goblygiadau fy nghanlyniadau. Yn ail, dysgais mai rhagarweiniad yn unig oedd darlithoedd a gwaith cwrs. Fy nghyfrifoldeb innau fyddai cyfleoedd addysg a llwyddiant personol a phroffesiynol, ac roedd y cyfleoedd hyn om cwmpas. Holi cwestiynau, datblygu syniadau, a chyfosod cysyniadau newydd... dymar sgiliau sydd yn werthfawr iawn im cyflogydd presennol.
Pa gyngor fyddai gennych i fyfyriwr syn dilyn eich cwrs chi nawr?
Mae Prifysgol yn gyfnod unigryw yn eich bywyd, ac ar l ichi raddio chewch chi mor profiad hwnnw yn unman arall. Gwnewch y mwyaf o bob eiliad. Mynnwch sgyrsiau dyfnach ch darlithwyr, darllenwch bob dim fedrwch chi, treuliwch amser ar bynciau y tu hwnt ich dewis faes, a dewch o hyd i grŵp o bobl syn debyg i chi a dysgu mwy amdanoch chich hun drwyddyn nhw.