Chris Skirrow
Enillodd Chris Skirrow radd mewn Botaneg yn 1975.
Beth rydych chin ei gofion bennaf am eich cyfnod yn Aber?
Un or atgofion pennaf ywr ymdeimlad cryf o gymuned. Mae nifer or ffrindiau a wneuthum bryd hynny gennyf o hyd. Pan ddown nir alumni at ein gilydd, mae cymaint or sgwrs yn troi o gwmpas y bobl roeddem nin eu hadnabod ar hyn a wnaethom, profiad a rannwyd gan bawb. Rwyf hefyd yn cofior amgylchedd. Roedd Aber yn lle gwych i bawb a hoffair byd tu allan, yn enwedig y mr. Rwyf dal i gofio gwylio stormydd gwyllt y gaeaf a ddeuai ir bae a tharo yn erbyn y prom.
Beth rydych chin ei wneud nawr o ran eich gyrfa a sut gwnaeth eich Gradd o Aberystwyth eich helpu?
Yn wreiddiol, mi roeddwn in astudior hyn a elwir bellach yn Wyddorau Amgylcheddol ond a oedd ar y pryd yn gymysgedd o Fotaneg, Sŵoleg, Ecoleg a nifer o bynciau tebyg eraill. Maen wahanol iawn ir hyn a wnaf heddiw fel partner yng nghwmni archwilio ac ymgynghori mwyaf y byd. Mi roedd y radd yn bendant o gymorth i gael y swydd gan fod rhaglenni i raddedigion graddau amherthnasol yn ddigon cyffredin ar y pryd - roedd yn arwydd eich bod chin gwybod sut i feddwl a bod gennych y galluoedd sylfaenol y chwiliair cyflogwr amdanynt. Pan gefais fy ngradd, ni feddyliais fod llawer o gysylltiad rhwng fy ngradd a gyrfa ym myd cyfrifeg, ond dros y blynyddoedd, daeth y tebygrwydd rhwng dewis naturiol a chystadleuaeth gorfforaethol yn amlwg iawn i mi. Er na wnaeth fy helpu o ran agweddau technegol fy swydd, bun sicr o help imi edrych ar bethau o safbwynt ehangach.
Pa gyngor fyddai gennych i fyfyriwr syn dilyn eich cwrs chi nawr?
Nid y cwrs ydyw o angenrhaid ond yr hyn a wnewch chi ohono. Mwynhewch eich amser yn Aber - maen lle arbennig iawn, gwnewch y mwyaf ohono. Dewch o hyd i rywbeth yr ydych yn ei fwynhau ai wneud yn dda. Gwnewch ffrindiau au cadw nhw. Teithiwch i ehangur meddwl. Gosodwch nodau i chich hun a dyfalbarhau, ond peidiwch ag anghofio cael hwyl ar hyd y daith.