Carol Waggoner-Angleton
Graddiodd Carol o Aber yn 2010 gyda gradd mewn Llyfrgellyddiaeth a Gwybodeg. Bellach mae’n gweithio fel Cynorthwyydd Casgliadau Arbennig ym Mhrifysgol Talaith Augusta, Georgia, UDA.
Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?
Yr ysgolion astudio heb os oedd cyfnod gorau fy mywyd. Dyna’r agosaf i mi fod yn fyfyriwr traddodiadol erioed; bwyta, cysgu, treulio’r diwrnod cyfan yn y dosbarth a phobl wych o’r un anian yn ei wneud gyda mi. Nefoedd.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr yn eich gyrfa, a sut helpodd eich gradd Aberystwyth chi?
Fi yw Cynorthwyydd Casgliadau Arbennig Llyfrgell Reese ym Mhrifysgol Talaith Augusta yn Augusta, Georgia. Er fy mod yn cael fy ystyried yn barabroffesiynol yma, arweiniodd fy ngradd yn Aber at ailddosbarthu fy swydd gyda chodiad cyflog o £5000 o fewn pedair blynedd. Rwyf i hefyd wedi cael cynnig amrywiol gyfleoedd addysg barhaus ac wedi gallu rheoli llawer o brosiectau diddorol a manwl.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs nawr?
Gorffennwch y traethawd ymchwil!