Yr Athro Ken Walters FRS
Mathemategydd, rheolegydd, mentor a chyfaill oedd yr Athro Ken Walters FRS, sydd wedi marw yn 87 oed. Pan fu farw, roedd yn Athro Ymchwil nodedig yn Adran Fathemateg a Chyfadran Busnes a Gwyddorau Ffisegol Prifysgol Aberystwyth.
Addysgwyd Ken ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe, lle graddiodd gydag anrhydedd dosbarth 1af mewn Mathemateg Gymhwysol ym 1956. Aeth yn ei flaen i ennill Doethuriaeth ym maes llif hylifau elastig-gludiog, dan oruchwyliaeth yr Athro J G Oldroyd.
Daeth i Aberystwyth ym 1960 a chafodd ei ddyrchafu'n gyflym ac yn aml. Fe’i gwnaed yn Athro ym 1973. Yma, cychwynnodd Ken grŵp ymchwil a roddodd Aberystwyth ar y map rheolegol. Llwyddwyd drwy hyn i ddenu myfyrwyr ac ymwelwyr academaidd a diwydiannol i Aberystwyth ac, o ganlyniad i hyn, perfformiodd y radd Mathemateg Gynhwysol yn rhagorol mewn llawer o ymarferion asesu ymchwil ar ôl ei gilydd.
Etholwyd Ken yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol ym 1991 ac yn Gydymaith Tramor Academi Beirianneg Genedlaethol yr Unol Daleithiau ym 1995. Roedd hefyd yn un o’r Cymrodyr a aeth ati i sefydlu Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac roedd yn aelod o Gyngor Ymgynghorol Gwyddoniaeth Cymru rhwng 2010 a 2015.
Astudiodd ei grŵp rheoleg hylifau cymhleth megis paent, olew a thoddiadau polymer. Gwnaeth y grŵp gynnydd arloesol ar y datrysiad rhifiadol i broblemau sy'n ymwneud â llif a’r gwaith i brosesu deunyddiau o'r fath, ac roeddent yn anarferol ymhlith mathemategwyr am fod ganddynt labordy arbrofol â chyfarpar o safon i ysbrydoli a dilysu eu gwaith damcaniaethol.
Ym 1976, Ken oedd sylfaenydd golygyddol y Journal of non-Newtonian Fluid Mechanics, a gweithiodd yn ddiwyd i sicrhau bod y cyfnodolyn yn ennill ei blwy’. Dim ond ar ôl cyhoeddi’r 100fed gyfrol y rhoddodd Ken y gorau iddi. O blith ei lyfrau niferus (a llawer o erthyglau ymchwil), mae An Introduction to Rheology (1989), a ysgrifennwyd ar y cyd â Barnes a Hutton, yn dal i fod yn werslyfr canonaidd i fyfyrwyr uwch oherwydd ei eglurder. Roedd Numerical Simulation of Non-Newtonian Flow (1984), a ysgrifennwyd ar y cyd â Crochet a Davies, yn waith arloesol wrth ddatblygu'r maes dadansoddi rhifiadol ar lif hylifau cymhleth.
Bydd llawer o gydweithwyr yn cofio Ken fel uwch academydd a weithiodd i hyrwyddo rhagoriaeth ymchwil, a rhywun a oedd yn meithrin ac yn mentora mathemategwyr a gwyddonwyr blaenllaw. I Ken a'i wraig Mary, roedd rheoleg yn gyfle i deithio'r byd, i drafod ymchwil wrth reswm, ond hefyd i dreulio amser gyda ffrindiau.
Ym 1991, sefydlodd Ken ac eraill y Sefydliad Mecaneg An-Newtonaidd, a oedd yn gysylltiedig â Phrifysgol Cymru, fel yr oedd bryd hynny. Daeth cyfle drwy’r Sefydliad i gynnal cynadleddau mewn rhannau hardd o'r wlad a dod â chast rhyngwladol o brif reolegwyr y byd i Gymru. Bydd llawer ohonom yn gweld eisiau’r digwyddiadau hynny, a bydd yn chwith gennym beidio â gweld Ken yn ei rôl fel trefnydd, gwyddonydd a bon viveur.
Yr Athro Simon Cox, Pennaeth yr Adran Fathemateg, Prifysgol Aberystwyth