Yr Athro John R Haynes
Yr Athro John R Haynes: 21 Ebrill 1929 – 17 Ionawr 2022
Ganwyd John Roland Haynes, Athro Emeritws mewn Micropalaeontoleg, yn Aylesbury ac fe gyfeiriai ato ei hunan fel ‘plentyn y sgarpdiroedd’, sef tiroedd y brigiadau calchfaen Jwrasig a’r coedtiroedd a welir ar hyd y ffin rhwng Swydd Buckingham a Swydd Northampton.
Mae hanes plentyndod a llencyndod John, yn y blynyddoedd hyd at yr Ail Ryfel Byd ac yn union ar ôl hynny, wedi’i cofnodi yn ei hunangofiant hynod ddiddorol, Strenuous Lives. Er bod ei dad yn gorfod symud yn aml i gael gwaith, gan darfu ar addysg John, fe ddatblygodd gariad at natur, yr awyr agored, seryddiaeth a daeareg.
Cwblhaodd ei dystysgrif ysgol yn Ysgol Ramadeg Aylesbury a chyrraedd safon ddigonol i barhau i astudio am ei gymwysterau uwch. Yno daeth o dan ddylanwad dau o gyn-ddisgyblion Aberystwyth a ddysgodd fotaneg a daeareg iddo.
Ym mis Medi 1947, ac yntau ar fin gadael i gyflawni ei Wasanaeth Cenedlaethol, cynigiodd Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth le i John i astudio botaneg, gyda daearyddiaeth a daeareg yn isbynciau. Cyrhaeddodd Aberystwyth ar yr un pryd â’r Athro Alan Wood, Pennaeth newydd yr Adran Ddaeareg.
Ymhen byr amser newidiodd John i astudio daeareg yn brif bwnc, gan ennill Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn 1951. Derbyniodd brosiect ymchwil doethurol ar Early Tertiary (Palaeocene) Foraminifera ym Mhrifysgol Caint. Dyfarnwyd PhD iddo yn 1955 a chyhoeddodd nifer o bapurau ar ei waith.
Hyd at 1954, roedd daearegwyr Aberystwyth yn gorfod defnyddio unrhyw wagle oedd ar gael yn y Coleg Diwinyddol, gan gynnwys y coridorau a’r atig. Roedd yr adnoddau yn elfennol, byddai ‘labordai’ yn cael eu sefydlu dros dro mewn unrhyw fan lle roedd sinc a chyflenwad trydan. Gwellodd amgylchiadau rhyw gymaint yn ystod y ddegawd nesaf pan symudwyd i Ffordd Alexandra i rannu lle gyda’r Adran Ddaearyddiaeth yn yr adeilad oedd gynt yn perthyn i’r Adran Amaethyddiaeth.
Pan ddechreuodd John ar ei ymchwil, prin oedd adnoddau’r llyfrgell yn Aberystwyth ar gyfer micropalaeontolegwyr, a doedd dim gwasanaeth benthyg rhwng llyfrgelloedd. O ganlyniad, rhaid oedd iddo fynd ar y daith hir mewn car neu dren o Aberystwyth i’r Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain er mwyn defnyddio ei chasgliadau cyfeirio a gweithiau chyfeirio allweddol. Efallai i’r teithiau hirfaith hyn i Lundain gyfrannu at amharodrwydd John i adael Aberystwyth wedyn. Oherwydd, er ei fod yn uchel ei barch ymysg ei lu o gyfoedion, dim ond y rheini a fu yn Aberystwyth ddaeth i’w adnabod yn bersonol, daeth eraill i’w adnabod trwy ei gyhoeddiadau yn unig.
Wedi’r rhyfel, roedd Alan Wood yn llygad ei le pan ddywedodd y byddai angen micropalaeontolegwyr ar y diwydiant olew. Efallai, felly, nad yw hi’n syndod fod John wedi cael gwaith dros y dair blynedd nesaf fel micropaleontolegydd i gwmni Shell Canada yn Calgary, cyn cael cyfnod byr gydag Esso yn Libya.
Yn 1959 denwyd ef yn ôl i Aberystwyth gan yr Athro Wood fel Darlithydd Cynorthwyol, â’i dasg oedd sefydlu cwrs uwchraddedig mewn micropalaeontoleg i baratoi myfyrwyr ar gyfer gwaith yn y diwydiant olew. Yn 1960 dyfarnwyd y Diploma cyntaf mewn Micropaleontoleg o Brifysgol Cymru. Daeth hwn, ymhen blynyddoedd wedyn, yn gwrs MSc.
Dyrchafwyd John yn Ddarlithydd yn 1960 ac yn fuan wedyn cafwyd cwch i’r Brifysgol (sef ‘R.V. Antur’) at ddefnydd ymchwil moryddol ac alltraeth ym Mae Ceredigion. Dim ond o fewn pellter golwg i’r lan roedd modd casglu samplau (sef 10 milltir ar ddiwrnod da). Pennwyd y lleoliadau ar gyfer cymryd samplau alltraeth drwy ddefnyddio secstant a fenthycwyd oddi wrth yr Adran Ddaearyddiaeth; nid oedd System Leoli Fyd-eang (GPS) i’w chael yn y dyddiau hynny. Yn 1973 cyhoeddwyd gwaith John, ‘Cardigan Bay Recent Foraminifera’, yn Bulletin of the British Museum (Natural History) Zoology.
Dyrchafwyd John yn Uwch Ddarlithydd yn 1966, tua’r adeg y symudodd yr Adran Ddaeareg i adeilad modern, pwrpasol ar Gampws Penglais. Erbyn hyn, adnabyddid ef gan ei gydweithwyr fel ‘Jo’. Yn ôl y sôn, ei gyd-weithiwr John Phillips ddywedodd “allwn ni ddim cael dau ‘John’ yn yr adran, felly fe wnawn ni dy alw’n Jo”, enw nad oedd yn hoff ohono. Roedd yr adran Ddaeareg yn Aberystwyth yn y 60au hwyr a’r 70au cynnar yn llawn cymeriadau mewn cymuned ymchwil oedd yn ffynnu, yn ddeinamig ac yn gymdeithasol fywiog. O fewn grŵp fel hwn ystyrid John fel gŵr tawel a bonheddig.
Dysgodd John Stratigraffeg y Cyfnod Trydyddol Cenosöig i israddedigion ac yn ystod eu teithiau mapio byddai bob amser yn pwysleisio’r agweddau economaidd ar y creigiau roedd y myfyrwyr yn eu hastudio, ac yn ei ffordd dawel daethai â hanes archwilio daearegol yr ardal yn fyw. Ac ar ôl y gwaith maes bachai ar bob cyfle posib i fwynhau nofio yn y môr.
Prosiect sylweddol arall i Brifysgol Aberystwyth oedd Twll Turio Mochras, a dyllwyd yn y 1960au hwyr. Bwriad y prosiect oedd profi theori Alan Wood y byddai gwaddod Mesosöig i’w gael ar ymylon creigiau hŷn y Palaeosöig Isaf sydd yng nghyfansoddiad Cromen Harlech ac Eryri. I ddechrau, cafwyd adroddiadau o ffosiliaid goniatitau a haenau Carbonifferaidd o dan yr anghydffurfedd Tertaidd ond cywirodd John hyn trwy ddefnyddio fforaminiffera’r Jwrasig Isaf. Amonitau, wrth gwrs, oedd y ‘goniatitau’ hyn.
Yn 1977 dyrchafwyd John i ddarllenyddiaeth y Brifysgol, ar ôl ennill ei DSc y flwyddyn gynt. Cafodd ddyrchafiad yn Athro yn 1983 ac roedd bob amser yn ddyfal wrth gwblhau tasgiau gweinyddol, pan oedd angen. O ganlyniad, daeth yn bennaeth adran dros dro ar ddau achlysur (Sesiwn 1984-5 a rhwng mis Chwefror a mis Mai 1986).
Pan sefydlwyd yr Athrofa Astudiaethau Daear yn 1989, gofynnwyd i John ymgymryd â gwaith cadeirydd y bwrdd uwchraddedig. Roedd hyn yn llenwi cryn dipyn o’i amser tan iddo ymddeol yn gynnar o waith llawn-amser yn 1993, gan barhau fel aelod rhan-amser o’r staff am dair blynedd arall.
Yn ogystal â dysgu’r cwrs MSc Micropalaeontoleg am dros 35 o flynyddoedd, arolygodd John dros 80 traethawd ymchwil MSc, a 30 o fyfyrwyr MPhil/PhD.
Trwy gydol ei amser yn Aberystwyth cynhyrchodd John lif o gyhoeddiadau. Roedd llawer ohonynt yn brosiectau grŵp ac yntau yn cymryd ei ran fel yr arbenigwr a fyddai’n adnabod y fforaminiffera, er enhraifft yn ystod yr archwiliad o Fae Ceredigion; byddai’n helpu i ddeall hanes cymhleth dyddodion rhewlifol a rhai hwyrach; ac adnabod fforaminiffera’r Palaeogen o Nigeria.
Mae’n debyg mai ei gyhoeddiad pwysicaf oedd ei werslyfr Foraminifera (1981), a luniwyd er budd israddedigion ac uwchraddedigion fel ei gilydd. Dilynnwyd hwn yn 1990 gan adolygiad meistrolgar ar Foraminiferal genera and their classification gan Loeblich a Tappan, gan ei osod yng nghyd-destun hanes astudiaethau ar fforaminiffer. Hanes ymchwil academaidd ar fforaminiffera yn y DU oedd ei gyhoeddiad academaidd olaf (2013), a wnaethpwyd ar y cyd â’r Athro Malcolm Hart o Brifysgol Plymouth ac eraill.
Hefyd ar ôl ymddeol cyhoeddodd Strata Florida, poems from Ceredigion ac yn 2007 Strenuous Lives (hanes teuluol a hunangofiant hynod ddiddorol am y cyfnod hyd at ei yrfa israddedig).
Yn 2017, dyfarnwyd Medal Brady i John gan y Gymdeithas Ficropalaentolegol. Dyma ei wobr uchaf, ac mae’n deyrnged deilwng i’w fywyd yn gweithio ar ymchwil a dysgu ym maes micropalaeontoleg.
Estynnwn ein cydymdeimlad diffuant â holl deulu John a fydd, heb os, yn cofio ei wên a’i gariad at natur. Gobeithio y cânt gysur o’i gyfraniad rhagorol i’n gwyddor a’r ffaith fod cymaint o fyfyrwyr wedi cael budd o’i gyfeillgarwch a’i wybodaeth.
- Dr Ben Johnson a Dr Antony Wyatt