Yr Athro John Gareth Morris CBE DPhil FIBiol FLSW FRS (1932-2023)

Gyda thristwch y nodwn farwolaeth yr Athro John Gareth Morris CBE DPhil FIBiol FLSW FRS yn 91 oed, ddydd Sul 10 Rhagfyr 2023 yn Llaneuddogwy (Llandogo), Sir Fynwy. Traddodwyd ei gorff yn amlosgfa Aberystwyth ddydd Gwener 29 Rhagfyr.

Ganed Gareth yn Llansawel ym 1932, a symudodd i Borth-cawl yn ddiweddarach. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Pen-y-bont ar Ogwr, cyn astudio Biocemeg ym Mhrifysgol Leeds.

Ar ôl darganfod pleserau ffisioleg ficrobaidd, symudodd i'r Uned Microbioleg yn Adran Biocemeg Prifysgol Rhydychen (Coleg y Drindod), lle bu'n astudio ar gyfer ei DPhil dan oruchwyliaeth DD. Woods FRS (The Synthesis of Vitamin B, and Related Substances by Microorganisms, 1958).

Arhosodd yn Rhydychen fel Cymrawd Ymchwil Guinness mewn Biocemeg Ficrobiolegol ac yn ddiweddarach bu'n Diwtor yng Ngholeg Balliol, ar ôl blwyddyn yng Ngorsaf Forol Hopkins, Berkeley yn gweithio gyda Roger Stanier. Yn 1961 dilynodd ei gydweithiwr Hans Kornberg i Adran Biocemeg a oedd newydd ei sefydlu ym Mhrifysgol Caerlŷr.

Ym 1971 penodwyd Gareth i Gadair newydd Microbioleg yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, a’i dasg oedd sefydlu Cwrs Gradd Anrhydedd mewn Microbioleg yn yr hyn a ddaeth wedyn yn Adran Botaneg a Microbioleg.

Roedd y cwrs BSc Microbioleg ar y pryd yn drawiadol oherwydd ehangder cwmpas ei faes llafur a'i bwyslais arbennig ar waith ymarferol yn y labordy ac ar gyrsiau maes, ac mae hynny’n dal i fod yn wir am y cwrs heddiw.

Roedd cryfderau yno eisoes mewn microbioleg laeth (Muriel Rhodes-Roberts), mycoleg (John Hedger) a algaeoleg (Alvin Jones), ac fe atgyfnerthwyd y rhain gyda phenodiadau Mike Young (geneteg facteriol) a Douglas Kell (egnïeg ficrobaidd).

Daeth y grŵp a sefydlodd i fri rhyngwladol ym maes astudio Clostridia a bacteria anaerobig anorfod eraill, gyda chyfeiriad arbennig at eu posibiliadau ymarferol ar gyfer cynhyrchu biodanwydd a sut y gellid eu defnyddio fel asiantau biodrawsnewidiadau penodol.

Credai Gareth fod dysgu yn cyd-fynd ag ymchwil mewn prifysgolion ("pan fyddwch chi'n cyffesu yn eich darlithoedd, mae angen i chi gael rhai pechodau o'ch labordy ymchwil i siarad amdanynt").

Wrth hyfforddi microbiolegwyr y dyfodol (a biolegwyr eraill) credai hefyd ei bod yn bwysig sicrhau bod ganddynt ystod gyflawn o sgiliau, gan gynnwys agweddau perthnasol ar fathemateg a'r gwyddorau ffisegol. I'r perwyl hwn, ysgrifennodd A Biologist’s Physical Chemistry (arg. 1af 1968; 2il arg. 1974), gwerslyfr a argymhellwyd yn eang ac a ddefnyddiwyd yn helaeth gan genedlaethau o fyfyrwyr bioleg.  

Roedd pwysigrwydd cydweithredu hefyd yn agos at ei galon ac, ynghyd â'r Athro David Hughes, Pennaeth Adran Microbioleg Prifysgol Caerdydd, cydsefydlodd gyfarfodydd Microbioleg Gregynog yn 1971. Deuai israddedigion, uwchraddedigion a staff i’r cyfarfodydd preswyl blynyddol hyn ym Mhlas Gregynog, Tregynon.

Ynghyd â’r teithiau cerdded yn y coedwigoedd a'r gêm bêl-droed ryngadrannol (nid oes sôn bod Gareth erioed wedi cymryd rhan ynddynt!), roedd y digwyddiadau hyn hefyd yn gyfle i lawer o ficrobiolegwyr ifainc roi eu cyflwyniad cyntaf mewn seminar. Ehangwyd y cyfarfodydd hyn yn ddiweddarach i gynnwys prifysgolion eraill Cymru, a chynhaliwyd y cyfarfodydd hyn bob blwyddyn am gyfnod, ymhell ar ôl iddo ef ei hun ymddeol.

Fe’i hetholwyd yn Gymrawd i’r Gymdeithas Frenhinol yn 1988 ac fe gafodd y CBE yn 1994 ('Am wasanaethau i wyddoniaeth') ac fe ddaeth yn Aelod er Anrhydedd o'r Gymdeithas Ficrobioleg yn 1997.

Bu hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Gwyddorau Biolegol y Cyngor Ymchwil Gwyddoniaeth a Pheirianneg (1978-81), wedyn yn Gadeirydd Pwyllgor Gwyddorau Biolegol ar Bwyllgor Grantiau'r Prifysgolion 1981-86 ac yn aelod o'r Comisiwn Brenhinol ar Lygredd Amgylcheddol (1996-2000). Ymddeolodd yn 2000, gan ddod yn Athro Emeritws gweithgar ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Fe'i hetholwyd yn Gymrawd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2011.

Pan oedd yn Rhydychen, cyfarfu â Mary Kehoe, nyrs dan hyfforddiant yn Ysbyty Radcliffe a hanai o Enniscorthy, Swydd Wexford. Priodwyd y ddau yng Nghaerlŷr yn 1962 ac yno y ganwyd eu plant, Martha a Paul. Roedd Mary ei hunan yn adnabyddus yn Aberystwyth, fel y gwirfoddolwr hiraf ei gwasanaeth yn siop Oxfam ar Ffordd y Môr. Er gwaethaf tristwch mawr marwolaeth Mary yn 2013, daliai i fynd am ei ymweliadau coffi rheolaidd yn Adeilad Edward Llwyd ac i gael cinio yn y Starling Cloud gyda chydweithwyr presennol a rhai oedd wedi ymddeol.

Hyd yn oed ar ôl iddo symud i Drefynwy yn 2019 i fod yn agos at Martha a'i theulu, cadwai gyswllt rheolaidd ar y ffôn a thrwy ebost gyda chyn-gydweithwyr, i sicrhau ei fod yn cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf o fewn yr adran a'r ‘Coleg’. Roedd yn enwedig o awyddus i ddysgu am unrhyw ddatblygiadau mewn ymchwil i ficrobioleg ac am cyflawniadau cyn-fyfyrwyr.

Testun pleser mawr i Gareth oedd y ffaith bod un o’i gyn-gydweithwyr yn Aber, Iain Barber, wedi dychwelyd yn 2022 i gymryd yr awenau fel Pennaeth Adran y Gwyddorau Bywyd, yn enwedig o gofio cysylltiad y ddau â Phrifysgol Caerlŷr.

Bydd cyn-gydweithwyr a chyn-fyfyrwyr fel ei gilydd yn cofio Gareth fel rhywun caredig a thyner, bob amser yn hael gyda'i amser a pharod i roi cyngor ar faterion gwyddonol a materion eraill.

 

Hazel Davey a Gareth Griffith (Adran Gwyddorau Bwyddorau Bywyd), gyda diolch i Paul Morris, David Hopper a Tony Pugh.