Yr Athro J.B. Smith, Athro Emeritws Hanes Cymru, 27 Medi 1931 - 19 Chwefror 2024

Gyda thristwch mawr y mae'r Brifysgol yn cofnodi marwolaeth yr Athro Jenkyn Beverley Smith, hanesydd uchel ei barch ym maes Cymru’r Oesoedd Canol.

Ymddeolodd yr Athro Beverley Smith o'r brifysgol ym 1995, ond parhaodd i fod yn athro emeritws ac ymgymryd yn llawn â gwaith ymchwil yn ei ymddeoliad. Erbyn iddo ymddeol, roedd yn dal Cadair Syr John Williams mewn Hanes Cymru, penllanw gyrfa a oedd wedi mynd ag ef o Lyfrgell Genedlaethol Cymru i Adran Hanes Cymru yng Ngholeg Prifysgol Cymru.

Ganed Beverley yng Ngorseinon ym 1931, ac fe’i magwyd mewn teulu a oedd wedi’u hintegreiddio'n agos i fywyd diwylliannol rhanbarth Abertawe. Roedd ei dad yn is-lywydd a chadeirydd Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy 1958 ac, yn rhinwedd y rolau hynny, ac yn destun balchder mawr i Beverley, croesawodd Paul Robeson i gartref y teulu ynghyd ag Aneurin Bevan, AS Glynebwy bryd hynny, a’i wraig Jenny Lee; daeth ei fam, fel y cofnododd Geraint Gruffydd, 'o linach anghydffurfiol tywysogaidd'.

Ar ôl mynychu Ysgol Ramadeg Tregŵyr ymunodd Beverley â Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ym 1949, lle bu’n astudio Lladin, Ffrangeg, Cymraeg a Hanes Cymru fel ei bynciau anrhydedd. Graddiodd ym 1952 a dyfarnwyd ysgoloriaeth dwy flynedd E.A. Lewis iddo i ddilyn ymchwil ym maes Hanes Cymru; arweiniodd hyn at draethawd Meistr yn dwyn y teitl 'The lordship of Glamorgan', a gyflwynwyd ym 1957.

Ar ôl cwblhau ei Radd Meistr gwnaeth Bev y ddwy flynedd ofynnol o Wasanaeth Cenedlaethol yn y Fyddin, cyn cymryd swydd yn Llundain fel ymchwilydd i'r Bwrdd Astudiaethau Celtaidd lle bu Syr Goronwy Edwards yn oruchwyliwr a mentor tymor hir iddo. Yn dilyn hyn bu’n Geidwad Cynorthwyol Llawysgrifau a Chofnodion yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru am ddwy flynedd. Ym 1960 fe'i penodwyd i ddarlithyddiaeth gynorthwyol yn Aberystwyth lle arhosodd trwy gydol ei yrfa, fel darlithydd, uwch ddarlithydd, darllenydd, ac, ym 1989, fel athro Syr John Williams.

Roedd ymchwil ac ysgrifau Beverley yn niferus ac eang. Mae ei ymrwymiad i'w faes ymchwil, hanes cymdeithasol a gwleidyddol Cymru'r Oesoedd Canol, yn amlwg nid yn unig yn ei brif ymchwil a'i ysgrifennu ar y pwnc ond hefyd yn ei barodrwydd i ysgrifennu adolygiadau o waith eraill yn ogystal â chefnogi prosiectau allweddol.

Mae ei gyfraniadau at gyfrol tri o Glamorgan County History (1971), gan gynnwys trafodaeth am ei arglwyddiaethau gwahanol, gwrthryfel Llywelyn Bren, a’r strwythur cymdeithasol yn arglwyddiaeth Senghennydd, yn ogystal ag i gyfrol dau o History of Merioneth (2001), a olygwyd gyda gwraig Beverley, Dr Llinos Smith, ac, yn ddiweddar iawn, i gyfrol dau o Cardiganshire County History (2019), yn dweud llawer am egni Beverley a’i ymrwymiad i'w ddisgyblaeth ond hefyd am rychwant ei wybodaeth. Roedd y gyfrol olaf yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r Oesoedd Canol, yn yr argraffiad hwn cyfrannodd at gyfrol am yr AS Llafur ac Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru, Jim Griffiths (1977).

Er bod gosod sylfeini cadarn ar gyfer astudio Cymru’r Oesoedd Canol, gan gynnwys rhifyn o draethodau dethol T. Jones Pierce, goruchwyliwr traethawd ymchwil Meistr Beverley, yn rhan bwysig o'i waith, felly hefyd oedd gwneud ei gyfraniad unigryw a phwysig ei hun.

Mae diddordeb ymchwil Beverley mewn agweddau ar gyfraith ganoloesol Cymru a safle’r gyfraith mewn perthynas â chyfraith a ffurflywodraeth Lloegr yn thema barhaus yn ei waith, yn ogystal ag ymchwiliad parhaus i natur gwleidyddiaeth ganoloesol Cymru mewn perthynas â brenhiniaeth a llywodraeth Lloegr.

Ildiodd erthyglau pwysig ar Edward II a theyrngarwch Cymru, ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg, i bwyslais cynyddol ar Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Llywelyn Ein Llyw Olaf), yn gyntaf mewn cyfres o erthyglau ac yna mewn cyfrol fawr, a gyhoeddwyd yn y Gymraeg ym 1986 ac wedyn mewn argraffiad Saesneg estynedig ym 1998. Derbyniodd y ddwy gyfrol ganmoliaeth hael gan adolygwyr ac maent yn sefyll fel pinacl gyrfa ymchwil a chyhoeddi o bwys.

Roedd brwdfrydedd Beverley dros ei bwnc yn heintus a'r dull yr oedd yn cyfathrebu cymhlethdodau a photensial y pwnc yn gymhellgar; roedd hyn yn ymestyn y tu hwnt i'r monograff a'r erthygl. Er enghraifft, cafodd gwahoddiad i arwain grŵp o arbenigwyr yn hanes yr oesoedd canol wrth ymweld â Chastell Baldwyn ugain mlynedd yn ôl, ei dderbyn â brwdfrydedd ac mae wedi parhau i fod yn atgof melys i'r rhai oedd yn bresennol.  Mae'n dyst i'w ymrwymiad ef, a Llinos i'w pwnc, eu bod hwy, a Beverley’n 91 oed, wedi ymuno â’r un cyfarfod yn ystod yr haf y llynedd.

Yn ogystal â'i waith academaidd, yn ei amrywiol ffurfiau, roedd galw mawr am Beverley fel gweinyddwr a hwylusydd materion sy'n ymwneud ag astudio'r gorffennol; roedd hyn yn arbennig o wir yn ei rôl fel Cadeirydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, rôl a ddaliodd o 1991 i 1999, ac fel golygydd Bwletin Bwrdd Astudiaethau Celtaidd/Studia Celtica am dros ddeugain mlynedd.

Mae'n braf hefyd bod gwaith Beverley wedi ei gydnabod yn ystod ei oes; roedd cyfrol deyrnged er anrhydedd iddo, a gyhoeddwyd yn 2011, yn cynnwys traethodau gan gyfeillion a haneswyr Cymru a Lloegr yr Oesoedd Canol. Yn ei deyrnged i Beverley yn y gyfrol honno (y cyfeiriwyd ati, gyda diolch, yn yr hysbysiad hwn), gwnaeth Geraint Gruffydd, gan ddefnyddio ansoddair a ddefnyddiwyd yn flaenorol am Syr John Edward Lloyd, ddisgrifio Beverley fel 'cludwr llusernau drwy'r canrifoedd coll', crynodeb cwbl addas o'i ofal, diwydrwydd a chynhesrwydd fel hanesydd ac fel dyn.

Mae cyn-gydweithwyr a chydweithwyr presennol yn Aberystwyth yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf â Llinos, a’u meibion, Robert a Huw, a'u teuluoedd.

 

Yr Athro Phillipp Schofield, Adran Hanes a Hanes Cymru