Yr Athro Emeritws Keith Birkinshaw (1942-2023)

Gyda thristwch y rhannwn y newyddion am farwolaeth yr Athro Keith Birkinshaw, Athro Emeritws yn Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth, ym mis Rhagfyr 2023.

Ymunodd Keith â’r Brifysgol yn 1979 yn dilyn cyfnodau yng Ngholeg Prifysgol Llundain, Academi’r Gwyddorau ym Mhrâg, Prifysgol Birkbeck Llundain a Phrifysgol Warwick.

Drwy adeiladu ar ei waith PhD ar adweithiau moleciwliau ïon, datblygodd raglen ymchwil ryngddisgyblaethol yn Aberystwyth a oedd yn canolbwyntio ar ganfod gronynnau gwefr.

Cydweithiodd â llawer o bartneriaid rhyngwladol, gan dreulio amser yn Labordy Jet Propulsion NASA a Phrifysgol Charles, Prâg, gan ddatblygu synhwyrydd integredig unigryw ar gyfer archwilio'r gofod a dadansoddi deunyddiau.

Roedd yn athro hynod boblogaidd ac egnïol, gan gyflwyno modiwlau a chyrsiau newydd mewn electroneg ac offeryniaeth.

Roedd yn gerddor medrus, yn chwarae banjo mewn band bluegrass a darparodd y trac sain ar gyfer fideo hyrwyddo arloesol a gynhyrchodd ar gyfer yr adran yn 1984.

Cadwodd gysylltiad â’r Brifysgol ar ôl iddo ymddeol a bydd y rhai a gafodd y fraint o’i adnabod fel ffrind, cydweithiwr ac athro yn gweld ei eisiau.

Yr Athro Andrew Evans a Dr Dave Langstaff, yr Adran Ffiseg