Tony Curwen 1931-2022
Gyda thristwch mawr y nodwn farwolaeth Tony Curwen, cyn gydweithiwr yn yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth, a fu farw ddydd Iau 28 Gorffennaf yn 91 oed.
Ganwyd Tony Curwen ar 17 Ionawr 1931 yn fab i uwch gyfrifydd gyda McDougalls, y cwmni blawd. Roedd ei fam yn gweithio mewn banc ond rhoddodd y gorau i hynny pan briododd yn 1919. Dechreuodd Tony weithio yng ngwasanaeth Llyfrgelloedd Cyhoeddus Dinas Westminster ym mis Ionawr 1950. Caniatawyd blwyddyn o absenoldeb iddo yn 1952/53 i astudio Llyfrgellyddiaeth ym Mholitechneg Gogledd-Orllewin fel ag yr oedd pryd hynny, ac sydd bellach yn rhan o Brifysgol Gogledd Llundain. Yn 1955, treuliodd dri mis yn Llyfrgell Ganolog Copenhagen yn rhan o raglen gyfnewid. Cyfarfu â’i wraig Jean pan oedd yn gweithio i’r Gwasanaeth Llyfrgell a phriododd y ddau yn 1957. Yn 1959 daeth yn Gymrawd y Gymdeithas Llyfrgelloedd (bellach Sefydliad Siartredig y Gweithwyr Llyfrgell a Gwybodaeth Proffesiynol), y cymhwyster proffesiynol uchaf yn y maes. Yn yr un flwyddyn fe’i penodwyd yn Brif Gatalogydd ym Mhencadlys Llyfrgell Swydd Caint yn Maidstone, swydd y byddai ynddi am wyth mlynedd.
Yn 1967, anogwyd Tony i ymgeisio am swydd darlithydd yng Ngholeg Llyfrgellyddiaeth Cymru, oedd newydd ei sefydlu. Roedd y Coleg yn ehangu’n gyflym ac ar fin lansio rhaglen radd mewn Llyfrgellyddiaeth. Bu’r penderfyniad i dderbyn y swydd pan gafodd ei chynnig yn un anodd, oherwydd golygai symud yn agos i 300 milltir o’r de-ddwyrain poblog, lle’r oedd yntau a Jean wedi treulio eu holl flynyddoedd bron, a lle’r oedd ganddynt lawer o ffrindiau, i dref fach anghysbell mewn ardal o Gymru ag ynddi fawr o boblogaeth.
Bwriad Tony yn wreiddiol oedd aros yn Aberystwyth am bum mlynedd ar y mwyaf, ond canfu fod dysgu’n alwedigaeth foddhaus a theimlai Jean ac yntau fod Aberystwyth yn gymuned gydnaws, i’r graddau iddynt dreulio gweddill eu bywydau yma yn hapus iawn. Rhwng 1970 a 1971, caniatawyd blwyddyn o absenoldeb iddo astudio yng Ngholeg Prifysgol Llundain, a arweiniodd at ei MA. Yn dilyn hynny caniatawyd absenoldeb iddo dreulio blwyddyn yn Athro Cyswllt Ymweliadol yn Ysgol Graddedigion Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth Prifysgol Hawaii.
Ymddeolodd Tony o’i swydd yn y Coleg Llyfrgellyddiaeth yn 1989, pan drodd y Coleg yn Adran Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth yn yr hyn sydd bellach yn Brifysgol Aberystwyth, a daeth yn Ddarlithydd Anrhydeddus yn yr Adran. Ond ymhell o fod yn ddiwedd ar ei yrfa broffesiynol, dyma oedd dechrau cyfnod o waith proffesiynol hir a llwyddiannus. Gwasanaethodd ar Bwyllgor Bliss Bibliographic Classification (Second Edition) a bu’n gweithio yn ymgynghorydd i’r Ffederasiwn Rhyngwladol o Gymdeithasau a Sefydliadau Llyfrgell ac, o 1994 ymlaen, i’r Consortiwm o Lyfrgelloedd Ymchwil Ewropeaidd. Roedd parch mawr i’w waith ar y Disgrifiad Llyfryddol Safonol Rhyngwladol ac UNIMARC, a chyhoeddodd nifer o erthyglau ac adroddiadau pwysig.
Y tu hwnt i’w fywyd proffesiynol, gwnaeth Tony gyfraniad helaeth i fywyd cerddorol Aberystwyth. Roedd yn bianydd da ac roedd Jean ac yntau’n aelodau cynnar o Gymdeithas Gorawl Aberystwyth pan gafodd ei sefydlu yn 1970. Tony a ddyluniodd logo’r Gymdeithas Gorawl, sy’n dal i gael ei ddefnyddio heddiw. Roeddent yn aelodau gweithgar o’r Gymdeithas am flynyddoedd tan i anawsterau oed olygu nad oeddent yn gallu canu bellach ond parhaodd y ddau’n gefnogwyr pybyr. Roeddent yn cyfrannu’n hael fel Noddwyr y Gymdeithas Gorawl, Cyfeillion y Philomusica a Chyfeillion Musicfest. Gwasanaethodd Tony fel Ysgrifennydd Clwb Cerddoriaeth Aberystwyth am rai blynyddoedd a pharhaodd yn aelod o’r pwyllgor hyd at ei farwolaeth. Er mai ym maes cerddoriaeth roedd ei brif gyfraniad i gymuned Aberystwyth, fe fu am ddeng mlynedd yn aelod o’r tîm oedd yn rhedeg cyrsiau Age Concern wedi’u hanelu at godi hyder pobl hŷn i ddefnyddio cyfrifiaduron.
Roedd Tony yn ŵr diymhongar a gwylaidd, i’r graddau mai ychydig o’i gyfeillion a’i gydweithwyr oedd yn ymwybodol o ehangder ac ansawdd ei gyfraniadau proffesiynol na’i gyfraniad i gerddoriaeth yn y dref. Cydymdeimlwn yn ddiffuant â’i ferch a’i fab yng nghyfraith Gillian ac Ian Steedman. Cynhaliwyd yr angladd ar 16 Awst, a gwasanaeth coffa i ddilyn yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Aberystwyth. Bydd chwith mawr ar ei ôl.
Frank Bott
Yr Adran Gyfrifiadureg