Dr Stanley John Hughes (1918-2019)

Bu farw Stan yn dawel ar ei ben-blwydd yn 102 oed toc ar ôl oddi ef a'i annwyl briod, Lyndell, ddathlu 61 o flynyddoedd o fywyd priodasol. Roedd ei wraig a'i blant, sef Glenys (Chuck) a David (Trinity), wrth ei ymyl pan fu farw. Bu farw mab Stan, Robert, yn 2011. Roedd wrth ei fodd yn treulio amser â'i wyrion Zoe, Evelyn, Theo a Rhian. Mae'r ffaith i Stan allu gweld ei wyrion yn tyfu yn fendith fawr inni.

Ganed Stan yn Llanelli yn un o bedwar o blant a bu pob un ohonynt fyw ymhell i’w nawdegau.  Graddiodd Stan o Brifysgol Cymru Aberystwyth yn 1941 cyn cychwyn ar ei yrfa yn Sefydliad Mycolegol y Gymanwlad yng Ngerddi Kew. Fe'i gwahoddwyd yn 1952 i Ottawa i ymuno ag Adran Amaeth Llywodraeth Canada fel gwyddonydd ymchwil. Yno y cyfarfu â Lyndell. Yn ystod eu carwriaeth, byddai Stan yn gyrru ei gar MG 'convertible' i Hamilton, Ontario, lle'r oedd Lyndell newydd gychwyn ar swydd ddysgu. Ymhen hir a hwyr, byddai Stan yn prynu car a fyddai'n gweddu'n well i'r tywydd yng Nghanada, ond swynwyd Lyndell Rutherford yn y dyddiau cynnar hynny â'r sbortscar seddi lledr coch a phriododd y ddau ym 1958.

Gweithiodd Stan yn Adran Amaeth Llywodraeth Canada tan iddo ymddeol ym 1983. Yn ystod ei yrfa, enillodd Stan gydnabyddiaeth ryngwladol. Dyfarnodd Academi Wyddoniaeth Sweden Fedal Aur Jakob Eriksson iddo ym 1969. Ym 1957, bu Stan yn Llywydd Cymdeithas Fycolegol America. Rhwng 1971 a 1983, bu hefyd yn Is-Lywydd y Gymdeithas Fycolegol Ryngwladol. Dyfarnodd Cymdeithas Fotaneg Canada Fedal George Lawson iddo ym 1981. Roedd yn hynod falch o'r ffaith iddo'i enwi'n Aelod Tramor o Gymdeithas Linné.

Gadawodd ar ei ôl gorff sylweddol o weithiau arwyddocaol ym maes mycoleg, a chymaint oedd parch ei gyfoedion tuag ato fel y'i penodwyd i Urdd Canada yn 2010. Parhau a wnaeth diddordeb angerddol Stan yn y maes hwn tan yr oedd ymhell yn ei nawdegau. Roedd yn destun llawenydd mawr iddo y cyflwynwyd ei lyfrau ar fycoleg i'r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne.

Gwelai Stan ystyr ym mhrydferthwch a threfn natur. Roedd yn gasglwr, yn ddosbarthwyr ac yn lladmerydd brwd dros yr amgylchedd, ymhell cyn y daeth hynny'n fater mor bwysig. Cyfoethogai sgyrsiau ar yr aelwyd drwy olrhain diarhebion mwyaf amlwg Cymru ynghyd â cherddi Wordsworth a Longfellow. Roedd Stan wedi'i gyfareddu gan y byd ac roedd yn ŵr hynod ffraeth. Roedd yn ddyn cyflawn, yn dad caredig ac yn ŵr cariadus.