Rhys Lewis (1903-2012)
Profodd fy nhad, Rhys Lewis, a fu farw yn 108 oed, galedi yn ystod ei flynyddoedd cynnar ond gweithiodd yn galed, gan astudio yn ei amser hamdden a symud ymlaen o weithio fel glöwr yn ei arddegau cynnar i fod yn athro, ac yna’n hyfforddwr athrawon. Erbyn iddo ymddeol yn 1970, yn 67 oed, roedd wedi treulio nifer o flynyddoedd hapus a boddhaus yn darlithio a goruchwylio myfyrwyr ar ymarfer dysgu.
Fe’i ganwyd i deulu o lowyr ym mhentref Llangennech, yr hynaf o chwech o blant. Gadawodd yr ysgol yn 13 oed a dechrau gweithio ar yr wyneb, cyn mynd dan ddaear yn 14 oed. Gweithiodd gyda merlod pwll glo yn wreiddiol, ac erbyn 19 oed roedd yn gweithio ar y ffas lo, gyda chaib, rhaw a ffrwydron ac yn gweithio’n galed iawn hefyd, yn aml mewn gwythiennau glo tenau.
Teimlai Rhys, fodd bynnag, y gallai wellai’i stad a, thrwy fynychu dosbarthiadau nos ac astudio mewn sied yng nghefn ei dŷ teras, fe’i derbyniwyd i’r brifysgol yn 1926. Bryd hwnnw, roedd yn cymryd rhan yn y Streic Gyffredinol, ac yn ysgrifennydd ei gyfrinfa lo yn Ffederasiwn Glowyr De Cymru.
Aeth yn fyfyriwr hŷn i Goleg Prifysgol Cymru, Abertawe, yn 1927, gan obeithio astudio i fod yn beiriannydd mwyngloddio, ond y flwyddyn wedyn trosglwyddodd i Aberystwyth, ac ennill gradd BA mewn hanes a hanes economaidd yn 1931 a thystysgrif athrawon yn 1932. Aeth Rhys yn athro gyda chyngor sir Llundain a chael swydd barhaol yn y pen draw yn Ysgol Church Street, Stoke Newington.
Cyfarfu â fy mam, Louise, ar ymweliad â Denmarc yn 1930, ac fe’u priodwyd yn Llundain yn 1935. Roedd ganddynt berthynas gariadus iawn, ac roedd hi’n gefnogol iawn ohono. Byddai Rhys yn dysgu yn ystod y dydd ac yn mynd i Ysgol Economeg Llundain (LSE) gyda’r nos, gan dderbyn BSc (Econ) yn 1938.
Ddeuddydd cyn cyhoeddi’r Ail Ryfel Byd, symudwyd plant Church Street, a’m rhieni, i Stevenage, Swydd Hertford. Ganwyd fy mrawd ieuengaf a minnau yn Hitchin yn ystod y rhyfel. Yn 1943 gofynnwyd i ‘nhad ddychwelyd i Lundain, a byddai’n cymudo’n ddyddiol, gan gyfuno’i waith â dyletswyddau Gwarchodlu Cartref ac astudiaethau pellach, gan ennill MSc (Econ) o’r LSE yn 1946.
Yn 1947 penodwyd Rhys i swydd mewn coleg hyfforddi athrawon yn Wymondham, Norfolk, ac yn 1949 symudodd fel darlithydd a phennaeth hanes i Goleg Hyfforddi Easthampstead Park, a oedd newydd ei sefydlu ger Wokingham yn Berkshire (sydd bellach yn rhan o Brifysgol Reading), ac arhosodd yno tan iddo ymddeol; erbyn hynny roedd yn brif ddarlithydd.
Cafodd ymddeoliad hir, hapus a haeddiannol, yn teithio dramor gyda fy mam ac yn dilyn gwleidyddiaeth a materion cyfoes yn frwd. Fel siaradwr Cymraeg – ychydig iawn o Saesneg a siaradai cyn iddo gyrraedd pump oed – roedd yn falch o’i dreftadaeth ddiwylliannol.
Bu farw Louise yn 1994. Goroesir Rhys gennyf i, fy mrawd, Peter, saith o wyrion a phump o or-wyrion.
John Lewis