Y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan (1939-2017)
Ganwyd Rhodri Morgan yng Nghaerdydd yn fab i T J Morgan, Athro Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Huana Rees (athrawes).
Mynychodd Rhodri Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, Caerdydd, graddiodd mewn Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg (1961) yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen ac yna enillodd radd meistr mewn Llywodraeth (1963) ym Mhrifysgol Harvard.
Ar ddechrau’i yrfa roedd yn diwtor i Gymdeithas Addysg y Gweithwyr (1963-65), yn swyddog ymchwil ar gyfer llywodraeth leol a chanolog (1965-71), yn ymgynghorydd economaidd i’r Adran Masnach a Diwydiant (1972-74), yn Swyddog Datblygu Diwydiannol ar gyfer De Morgannwg (1974-80), ac yn bennaeth y wasg a gwybodaeth i Gymru ar gyfer y comisiwn Ewropeaidd (1980-87).
Er ei fod yn aelod o deulu academaidd amlwg, dewisodd droi at yrfa mewn Gwleidyddiaeth trwy ddod yn Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd yn 1987 ac aros yn y swydd honno hyd 2001. Bu’n Llefarydd yr Wrthblaid dros yr Amgylchedd (1988-94), a hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Dethol Tŷ’r Cyffredin ar Weinyddiaeth Gyhoeddus (1997-99).
Hoffter arbennig Rhodri oedd Cymru, a phan gyrhaeddodd datganoli, dewisodd ddod yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Fe’i etholwyd yn aelod o’r cynulliad dros Orllewin Caerdydd yn 1999, ac yna fe’i benodwyd yn fuan yn Ysgrifennydd y Cynulliad dros Ddatblygiad Economaidd a materion Ewropeaidd.
Yn Chwefror 2000, daeth Rhodri yn Ysgrifennydd Cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol. Ym mis Mai 2007, fe’i gwnaed yn Brif Weinidog Cyntaf Cymru, wrth i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, greu Llywodraeth Cynulliad Cymru yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Ymddeolodd o arweinyddiaeth Plaid Lafur Cymru ac o fod yn Brif Weinidog yn Rhagfyr 2009.
Roedd Rhodri yn ymwelydd cyson â gorllewin Cymru a byddai ef a’i wraig Julie yn mwynhau treulio’u gwyliau haf ar arfordir Ceredigion.
Dyfarnwyd amryw o raddau er anrhydedd iddo gan gynnwys Cymrodoriaeth Anrhydeddus o Brifysgol Aberystwyth yn 2009. Yn 2001 fe’i penodwyd yn Ganghellor Prifysgol Abertawe a pharhaodd yn y swydd honno hyd ei farwolaeth ar 17 Mai 2017.