Yr Athro Peter Wyatt FRSE, FRSC (1924 - 2016)
Ganwyd Peter Arthur Harris Wyatt ar Hydref 31ain 1924 yn West Ealing, a chafodd ei addysgu yn Ysgol Gynradd Sudbury ac Ysgol Haberdashers’ Aske’s Hampstead, lle bu’n ysgolor ar waddol rhwng 1936 a 1942.
Dewisodd Fotaneg a Sŵoleg ynghyd â Chemeg a Ffiseg ar gyfer pynciau ei Dystysgrif Ysgolion Uwchradd, gan fwriadu sefyll ysgoloriaethau ar gyfer Rhydychen a Chaergrawnt; ond, oherwydd y byddai diwedd yr ail ryfel byd yn debygol o amharu ar eu haddysg, cynghorwyd disgyblion i sicrhau lle mewn prifysgol cyn gwasanaethu yn y rhyfel er mwyn iddynt gael lle diogel i ddychwelyd iddo wrth ymadael â’r fyddin. Roedd y Llywodraeth wedi cyflwyno cynlluniau Bwrsariaethau Gwladol ar gyfer hyfforddi nifer o ffisegwyr (ar gyfer Radar) a thipyn llai o gemegwyr, a chyflwynodd Peter ei enw fel darpar gemegydd, gan obeithio y byddai’n cael parhau i ddilyn rhai astudiaethau biolegol yn ogystal â chemeg.
Dyna sut y cyrhaeddodd Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle gallodd barhau â’i waith cemeg, ffiseg a botaneg a chael llonydd i astudio ar gyfer cwrs gradd ac ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn cemeg yn 1945. Bu’n ffodus i fod ymhlith y rheiny na alwyd ar gyfer gwasanaeth milwrol a chaniatawyd iddo fynd ymlaen i wneud cyfnod o ymchwilio i effeithiau paru ïonau ar raddfeydd adweithiau ïonaidd dan gyfarwyddyd yr Athro C W Davies.
Dywedai bob amser fod y blynyddoedd hyn yng Nghymru ymhlith blynyddoedd hapusaf ei fywyd. Er nad oedd ei lety mor gyfforddus â hynny, roedd y wlad o amgylch yn hynod drawiadol a gwnaeth rai o’i gyfeillion oes yma; cwrddodd â nifer ohonynt flynyddoedd yn ddiweddarach mewn aduniadau ac ar wyliau tramor a drefnwyd gan Gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr.
Bryd hynny, ychydig gannoedd o fyfyrwyr yn unig oedd yno a olygai botes dda o ddiddordebau a chyfle i ddysgu oddi wrth ei gilydd; dyma sut y dysgodd rywfaint o Gymraeg. Ac roedd pedwarawd llinynnol da (dan nawdd teulu Davies Llandinam) a phianydd/cyfeilydd nodedig, Charles Clements, ymhlith y staff. Byddent yn cyflwyno cyngerdd o gerddoriaeth siambr yn y Neuadd Arholiadau bob nos Lun ac yno y clywodd am y tro cyntaf lawer o’r pumawdau piano y byddai’n eu chwarae flynyddoedd yn ddiweddarach gyda phedwarawd David Charles yn Lympstone.
Byddent yn creu llawer o’u hadloniant eu hunain. Byddai llawer yn mynd i gymdeithasau’r myfyrwyr a byddai rhyw gymdeithas neu’i gilydd yn cwrdd bob nos. Roedd canu yn amlwg iawn yng Nghymru yn y dyddiau hynny ac i’w glywed ym mhob digwyddiad wrth aros i rywbeth ddigwydd a thra chyffredin fyddai canu “The animals came in two by two” yn ystod gorymdaith arbennig.
Roedd canu yn rhan amlwg o’r Eisteddfodau Ryng-golegol. Cymerodd ran yn y corau a’r grwpiau llai (fel y parti deuddeg) a chystadlu fel pianydd, yn unigol ac mewn deuawdau gyda Gerwyn Thomas (myfyriwr cerddoriaeth).
Yn hwyrach yn ei fywyd, byddai’n cofio’r canu yng “Nghlwb Ciniawa’r Dynion” neu’r “Men’s Dining Club”, enw crand iawn ar gyfer y ffreutur lle byddai’r myfyrwyr gwrywaidd, a oedd yn yr un llety, yn cael pryd o fwyd. Ni fyddai llawer o’r caneuon hynny yn addas i’w canu’n gyhoeddus.
Gan ei fod yn adeg y rhyfel, bu’n rhaid iddo ymuno â’r Uwch Gorfflu Hyfforddiant (STC) pan gyrhaeddodd Aberystwyth a dringodd i safle’r rhingyll. Roedd hynny’n bennaf, meddai am ei fod yn gallu cynnal ymdeithiau hyfforddi i’r ardaloedd gwledig cyfagos (nad oedd yn dasg anodd iddo ef) ac am fod modd clywed ei lais o bell.
Enillodd Peter ddoethuriaeth o Brifysgol Cymru yn 1948 a chael swydd fel darlithydd cynorthwyol mewn Cemeg Ffisegol ym Mhrifysgol Sheffield, gan ddod wedyn yn ddarlithydd, yn uwch ddarlithydd ac yn ddarllenydd. Treuliodd flwyddyn academaidd 1958-59 yn Gymrawd Leverhulme yn Rhydychen a dwy flynedd rhwng 1962 a 1964 dan nawdd y Cyngor Prydeinig yn Ymgynghorydd Ymchwil yn y Ganolfan Gemeg ym Mhrifysgol Chile, Santiago.
Yn 1968 gadawodd Sheffield pan benodwyd ef i gadair Irvine ym Mhrifysgol St Andrews ac yno y bu tan iddo ymddeol yn gynnar yn 1982, gan barhau i weithio’n rhan-amser am dair blynedd arall, gan obeithio y byddai’r ffaith ei fod ef, fel un o aelodau hynaf yr adran, yn gadael yn gyfle i benodi aelodau staff iau, rhywbeth na fu’n bosibl ers sawl blwyddyn. Yn ystod ei gyfnod amser llawn yno, byddai’n bennaeth yr Adran Gemeg bob yn ail ag Athro Purdie Cemeg Organig. Pan ymddeolodd, o dan reolau newydd y brifysgol, etholwyd y pennaeth gan y staff, a chafodd ei synnu pan etholwyd ef yn bennaeth unwaith eto, er mai aelod staff rhan-amser yn unig ydoedd.
Wrth ddysgu yn Sheffield a St Andrews cafodd gyfle i drafod y rhan fwyaf o agweddau ar gemeg ffisegol, gweithgarwch a’i hysbrydolodd i feddwl ymhellach am fathemateg a ffiseg sylfaenol y pwnc. Arweiniodd y diddordeb hwn at gynhyrchu llyfr syml ar thermodynameg gemegol (Energy and Entropy in Chemistry) a dau fonograff byr i athrawon (yng nghyfres Chemical Society).
Cafodd gefnogaeth yn ei fywyd preifat drwy briodas hapus yn Awst 1948 â Thelma Thomas, cyd-fyfyriwr yn Aberystwyth. Cawsant bump o blant.
Symudodd Peter a Thelma o St Andrews i Sidmouth yn 1985. Manteisiodd Peter ar y cyfle i ymroi i ddiddordebau eraill heblaw gwyddoniaeth, gan gyhoeddi yn 1997 ddwy gyfrol, fel golygydd a chyfrannwr, ar Ewyllysiau a Rhestrau Eiddo Uffculme (gyda’r hanesydd Robin Stanes a Grŵp Archifau Uffculme), a gwasanaethu fel pianydd a chyfeilydd mewn cyngherddau lleol yn Sidmouth ac ysgrifennu sonata i’r ffliwt a gosod nifer o gerddi ar gân, rhai ohonynt i’w canu gan ei gyfeillion mewn digwyddiadau lleol.
Ar ôl iddo ymddeol, dechreuodd Peter a Thelma fynychu aduniad blynyddol Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr, a mwynhau sawl taith gyda’r clwb teithio. Ymunodd Peter â’r pwyllgor a daeth yn un o gynrychiolwyr y Gymdeithas yn Llys Llywodraethwyr y Brifysgol. Rhoddodd y ddau’r gorau i fod yn aelodau o’r gymdeithas mewn protest yn erbyn penderfyniad y brifysgol i ddod â rhai cynlluniau gradd i ben.
Bu farw Peter ar Dachwedd 18fed 2016.